Helo bawb,
dw i wrthi'n cyfieithu dogfen ar ffisiotherpi yn nhriniaeth ffibrosis systig
sydd wedi bod yn her gan nad oes lawer o derminoleg feddygol i gael yn y
Gymraeg. Felly -
1. a oes gan unrhywun restr o derminoleg sy'n gysylltiedig a'r maes meddygaeth?
a
2. dw i'n chwilio am gyfieithiad am 'tip/tipping/tipped'. hynny yw, fel
rhan o driniaeth pobl a ffibrosis systig mae'r claf yn cael ei 'dipio' fel
bod ei ben i lawr er mwyn gadael i'r mwcws ddod allan o'r geg yn haws
(lyfli!). dyma enghraifft 'Modifications may include, the elimination of
head down positions with the lower lobes being drained in a horizontal plane
or the use of a slight tip only.'
bydd rhagor o ymadroddion yn dilyn!
diolch ymlaen llaw!
|