Gan gario ymlaen gyda'r drafodaeth am darddiad geiriau/enwau lleoedd, a oes
unrhyw un yn gwybod am ystyr y tu ôl i'r enw 'Eithrim'? Mae yna fferm o'r
enw Cefn Eithrim yng Nghlydach ac mae yna Nant Eithrim ym Mhowys, ond dwi
ddim yn siwr os yw'r enw yn golygu unrhyw beth yn benodol.
> ----------
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of Mary
> Jones[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 04 July 2006 10:15
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Gwyddil
>
> Me Geiriadur y Brifysgol yn dweud yn bendant mai lluosog Gwyddel yw
> Gwyddyl. Mae yna nifer o ffermydd (cynnar iawn) yn ardal y Ferwig yn ne
> Ceredigion yn cynnwys yr elfen, e.e. Heolgwyddyl, ac ychydig dros y ffin
> yn Sir Benfro mae Trewyddel (Moylegrove i bobol ddierth!) Mae ambell enw
> arall yn lleol yn awgrymu bod 'Gwyddyl' hefyd yn ffurf unigol, ac mae hen
> gysylltiad rhwng yr arfordir yma ac Iwerddon ers oes y Seintiau.
>
> Mary
>
>
>
>
>
> _____
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eldred Bet
> Sent: 04 July 2006 10:02
> To: [log in to unmask]
> Subject: Gwyddil
>
>
>
> Bore da bawb,
>
>
>
> A oes rhywun yn gwybod beth yw tarddiad/ystir y gair 'Gwyddil'? A yw'n
> tarddu o 'Gwyddel'?
>
>
>
> Mae sawl enghraifft ar gwgl o enwau llefydd yn cynnwys yr enw e.e. fferm
> yng Nghwm Tawe - Twll-y-Gwyddil (Cefn gwlad), enw afon
> (Llanfihangel-ar-arth), a llawer mwy
>
>
>
> Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni ar y pwnc.
>
>
>
> Bet
>
>
>
>
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|