Od tydi - mi wnes i ddefnyddio arobryn yn ddiweddar mewn erthygl ond pan
ddarllenodd ffrindiau gyda Chymraeg da hi doeddan nhw erioed wedi clywed y
gair chwaith.
Pan o'n i'n gweithio y nS4C dwi'n cofio fod Dafydd Meredith yn hoff iawn o'r
gair arobryn i ddisgrifio rhaglenni oedd wedi ennill ryw wobrwyon od mewn
gwyliau ffilm mewn gwledydd pell. Roedd o'n air handi iawn - tybed na
ddylem ni geisio ei atgyfodi?
Dwynwen
----- Original Message -----
From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, July 06, 2006 9:22 PM
Subject: Re: award-winning
Mae'n anodd weithiau penderfynu pryd i addysgu a phryd y mae'n
bwysicach bod yn ddealladwy.
Dydw i ddim yn hoff iawn o'r terfyniad "-edig" mewn iaith bob dydd.
Mae arwydd newydd fawr mewn siop gig ym Mhwllheli yn dweud rhywbeth
fel - "Archebedig heddiw; Danfonedig yfory".
Dw i'n rhyw obeithio mai jôc yw hyn ond dw i'n ei hofni hi ...
Siân
On 6 Gorff 2006, at 04:52, Ann Corkett wrote:
> 'Rwyf wedi cael yn union yr un sgwrs a dyn busnes o ddysgwr ym
> Mhorthaethwy. 'Roedd o wedi gofyn i Gymro am gyfieithiad o "award-
> winning"; y Cymro wedi arddweud rhywbeth dros y ffon, y dysgwr wedi'i
> gopio'n anghywir, a llawer o daflenni wedi'u hargraffu'n anghywir.
> Awgrymais "arobryn" a chael ganddo fod y Cymro eisoes wedi son am y gair
> ond ei wrthod fel rhywbeth diarth. "Gwobrwyedig" awgrymais wedyn, gyda
> chaniated - ond nid bendith - Bruce. Beth yw pwynt bod a gair da am
> rywbeth a methu ei ddefnyddio? Sut mae'r broses yn gweithio bod
> geiriau'n cael eu colli fel hyn, ac eto mae rhybeth fel "Pwyllgor" yn
> cymryd ei le yn iawn? Mae 'ffrind' wedi'i dderbyn yn lle, neu wrth ymyl
> 'cyfaill/cyfeilles', ond mae'n biti bod "partner" - a oedd yn ymwneud a
> partner busnes neu chwarae "bridge" - wedi disodli "cymar/cymhares" yn
> llwyr. Ydy hyn yn ddiogi - neu ddymuniad ymwybodol i fod yn llai
> pendant? Gallaf gofio arfer Cyngor Ceredigion o ddefnyddio
> "cymar/cymhares" ar wahoddiadau i ginio'r Cadeirydd flynyddoedd yn ol,
> ond 'dych chi byth yn ei glywed yn awr.
>
> Gyda llaw, tra bod gen i amser i fwydro, peidiwch a theimlo mai'r Gymraeg
> yn unig sy'n dioddef. Ydych chi wedi sylwi sut mae rhaglenni natur yn
> son am baby birds, baby sheep ayb, yn lle chicks, lambs ac ati? A dyma'r
> rhaglenni sydd i fod i addysgu pobl!
>
> Ann
> ----- Original Message ----- From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, July 06, 2006 12:31 PM
> Subject: Re: award-winning
>
>
> Mae'n ddrwg gen i - dyma ôl-nodyn i'r neges flaenorol. Cofnodir 150
> enghraifft o 'Gwobrwyedig' ar Google - e.e.
>
>
> http://www.wales.nhs.uk/sites3/docmetadata.cfm? orgid=92&id=35329&pid=4026
> Health Minister Visits Award-Winning Nurses
>
>
> http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-docmetadata.cfm?
> orgid=92&id=35484&pid=12180
> Y Gweinidog Iechyd Yn Ymweld  Nyrsus Gwobrwyedig
>
>
>
> Fe'i dyfynnir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru hefyd fel cyfieithiad o
> 'prize-winning', neu air sy'n debyg i'r ymadroddion Cymraeg 'arobryn' ac
> 'wedi ennill gwobr'.
>
> Cofion gorau,
>
> Huw
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 06 July 2006 10:22
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: award-winning
>
> Doeddwn i ddim wedi clywed 'arobryn' tan o'n i yn y coleg - a dysgwr
> gyflwynodd y gair i mi bryd hynny!
> Wnes i ei ddefnyddio yn ddiweddar a daeth y cwsmer - sy'n Gymraes eitha
> sicr ei Chymraeg - yn ôl ataf a gofyn ai camgymeriad oedd e.
> Mae arna i awydd defnyddio "llwyddiannus" y tro hwn.
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
>
>
> --
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006
|