Mae'n ddrwg gen i - dyma ôl-nodyn i'r neges flaenorol. Cofnodir 150 enghraifft o 'Gwobrwyedig' ar Google - e.e.
http://www.wales.nhs.uk/sites3/docmetadata.cfm?orgid=92&id=35329&pid=4026
Health Minister Visits Award-Winning Nurses
http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-docmetadata.cfm?orgid=92&id=35484&pid=12180
Y Gweinidog Iechyd Yn Ymweld  Nyrsus Gwobrwyedig
Fe'i dyfynnir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru hefyd fel cyfieithiad o 'prize-winning', neu air sy'n debyg i'r ymadroddion Cymraeg 'arobryn' ac 'wedi ennill gwobr'.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 06 July 2006 10:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: award-winning
Doeddwn i ddim wedi clywed 'arobryn' tan o'n i yn y coleg - a dysgwr gyflwynodd y gair i mi bryd hynny!
Wnes i ei ddefnyddio yn ddiweddar a daeth y cwsmer - sy'n Gymraes eitha sicr ei Chymraeg - yn ôl ataf a gofyn ai camgymeriad oedd e.
Mae arna i awydd defnyddio "llwyddiannus" y tro hwn.
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
|