Llwyddodd Ann i gael hyd i luniau o deulu'r Pyrenula ar y we
[Google>Images>Pyrenula] ond ni ddangosir P. hibernica. Er hynny, mae
ambell un arall yn rhyfeddol o debyg i gyrans duon mewn blomonj pinc [neu
bwdin bara menyn a digon o gyrans - Ann] felly efallai fod "mwyar mewn
cwstard" (gan hepgor "duon" i'w wneud yn llai trwsgl) yn enw cystal a dim i
lenwi bwlch [!] hyd nes clywn ni'n amgen gan arbenigwr.
Bruce
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, July 13, 2006 4:32 PM
Subject: Re: Blackberries in Custard
> Dylid ymbwyllo cyn rhuthro i gyfieithu'n slafaidd unrhyw enw Saesneg, yn
> enwedig un hirwyntog a llethchwith fel hwn. Ac os yw hwn yn *brin*, ni
> ellir dweud bod ganddo enw "cyffredin" - enw Saesneg lleol iawn yw hwn, mi
> gymeraf. Hoffwn gael disgrifiad *manwl* ohono, neu'n well byth llun lliw
> i weld ai "blackberries in custard" yw'r unig enw posibl a awgrymir gan yr
> olwg arno. Efallai ei fod, ond cawn weld. Mae'r enw Lladin yn awgrymu y
> dylai ei enw Cymraege gynnwys yr elfen "Iwerddon" neu "gwyddelig". Neu,
> os canfuwyd ef mewn un llecyn yng Nghymru, gellid cynnwys enw'r llecyn
> hwnnw (e.e. llecyn Ffestiniog).
> Bruce
> Tybed pam y dewisodd yr enghraifft honno? 'Rywf wedi edrych dan "images"
> ar Google eisoes. Os gall unrhyw ein pwyntiau ni at rywbeth defnyddiol,
> byddwn yn ddiolchgar.
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, July 13, 2006 1:16 PM
> Subject: Blackberries in Custard
>
>
> Mae math o gen prin - Pyrenula hibernica - wedi'i ganfod yn y gogledd.
> Dim ond yn Ucheldiroedd yr Alban a de orllewin Iwerddon y mae wedi'i
> gofnodi o'r blaen.
> Yr enw cyffredin amdano yn Saesneg yw "Blackberries in Custard".
> A fyddai'n saff, felly, i mi ei alw'n "Mwyar Duon mewn Cwstard"?
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.10/387 - Release Date: 12/07/2006
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.10/387 - Release Date: 12/07/2006
>
>
|