Diolch o galon, Mererid, Berwyn, Non a sawl un arall. Dw i'n meddwl bod gen
i ddigon o gyfeiriadau ac ati i ddechrau arni! Amser i chwilota sydd isie
nawr!
Nia
> ----------
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of Watt
> Elen Mererid ADN/GGYC[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 25 July 2006 12:39
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Enwau Chwilod a Mân-filod neu Anifeilia id Bach
>
> Mae gen i gof cysylltu efo Cymdeithas Edward Llwyd (flynyddoedd yn ôl) a
> chael rhestr o gyfeiriadau i rai rhestrau a ymddangosodd yn y
> Naturiaethwr.
> Dw i newydd ddod o hyd i hon - dyma'r rhai fedrai fod yn berthnasol i ti:-
> Ion. 1982 Rhifyn 7 - Rhestr o Ieir bach yr haf Prydain
> Ion. 1984 Rhifyn 9 - Rhestr o walch-wyfynod Prydain
> Ion. 1985 Rhifyn 13 - Gwesynod a Mursennod
> Gorff 1985 Rhifyn 14 - Rhestr o enwau cregyn a molwsciaid ereaill y môr
> Ion. 1986 Rhifyn 15 - Rhestr o enwau creaduriaid y traeth a gwymonau
> Gorff 1989 Rhifyn 22 Rhestr o enwau amffibiaid, ymlusgiaid a
> chrwbanod-môr.
>
> Ymddengys ei bod yn werth edrych yn rhifynnau Ionawr a Gorffennaf!!
>
> Hwyl
> Mererid
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Roberts, Nia
> Sent: 25 July 2006 09:54
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Enwau Chwilod a Mân-filod neu Anifeilia id Bach
>
>
> Yn anffodus, mân-filod yw'r rhain, felly, di-asgwrn-cefn a dyna'r broblem.
> Dyw Cymdeithas Edward Llwyd ddim eto wedi cyhoeddi gweddill y gyfres a
> gychwynnodd gyda 'Creaduriaid Asgwrn-cefn' (ar wahân i'r ail sef yr un ar
> ffyngau a choed etc). Gan mai'n uned ni yma fu wrthi'n cyfieithu Cynllun
> Bioamrywiaeth Castell-nedd Port Talbot, mae ffrwyth ein hymchwil helaeth
> (!!) gen i, ond wrth gwrs, mae bylchau. Mae gen i gopïau o gylchgrawn y
> Naturiaethwr yn y ty, ond mae pori mewn ôl-rifynnau'n cymryd amser!
> Meddwl o'n i cael rhestr hwylus cyn dechre!
> Gwell i mi lunio rhestr a'i bostio i'r cylch.
>
> > ----------
> > From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> > vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of
> > Berwyn Jones[SMTP:[log in to unmask]]
> > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> > vocabulary
> > Sent: 25 July 2006 09:40
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: Enwau Chwilod a Mân-filod neu Anifeiliaid Bach
> >
> > Dwy restr Cymdeithas Edward Llwyd? 'Creaduriaid Asgwrn-cefn' yw'r
> > gyntaf
> > ohonynt.
> >
> > Beth yw'r enwau sydd 'da ti?
> >
> > Berwyn
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Nia Roberts" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, July 25, 2006 8:51 AM
> > Subject: Enwau Chwilod a Mân-filod neu Anifeiliaid Bach
> >
> >
> > Help! Dw i'n cyfieithu darn byd natur sy'n llawn enwau anghyfarwydd.
> > Rwy'n pori yng Ngheiriadur Bruce, wedi cael rhai ond a wyr rhywun am
> > ffynhonnell arall am enwau Cymraeg? Rwy'n defnyddio Rhestr
> > Bioamrywiaeth Castell-nedd Port Talbot hefyd ond dyw pob un ddim yno
> > chwaith. Nia
> >
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Free Edition.
> > Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.10.4/396 - Release Date:
> 24/07/2006
> >
>
>
> ******************************************************************
> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and
> intended
> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
> If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
> on the following address: [log in to unmask]
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask]
> *******************************************************************
>
>
>
> -------------------------------------------------------------
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar
> gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os
> yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu
> na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
> Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon
> yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
> -------------------------------------------------------------
> This email and any attachments are confidential and intended for the named
> recipient only. The content may contain privileged information. If it has
> reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the
> content to anyone but should contact the sender at once.
> Any content that is not pertinent to the official business of the
> organisation is personal to the author.
> -------------------------------------------------------------
> Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei
> bod yn hollol angenrheidiol.
> Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is
> absolutely necessary.
>
|