Parti!
Hip hip hwrê!!
Edrych ymlaen!
On 25 Gorff 2006, at 01:32, Delyth Prys wrote:
> Annwyl aelodau'r cylch termau,
> Mae welsh-termau-cymraeg wedi datblygu yn rhithgymuned fywiog a
> gweithgar dros y blynyddoedd diwethaf.
> Mae rhai o'r aelodau yn adnabod ei gilydd yn dda, ond eraill heb
> erioed gyfarfod â'i gilydd.
> Hoffwn eich gwahodd i gyd felly i DDERBYNIAD (wel, oce, parti) ym
> Mhabell Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg / Prifysgol Cymru Bangor yn
> yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe, am 6.00 yr hwyr, nos Wener,
> Awst 11. Diben y noson fydd rhoi cyfle anffurfiol i aelodau'r cylch
> gyfarfod â'i gilydd yn y cnawd fel petai (diriaethu'r
> rhithgymuned?), a dathlu llwyddiant y cylch. Ni fydd yno areithiau
> ffurfiol, ond bydd yno gaws a gwin a llawer o sgwrsio difyr gobeithio.
> Os na fedrwch ddod i'r parti ar y nos Wener, bydd gan Ganolfan
> Bedwyr stondin ym mhabell Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg drwy'r
> wythnos, felly galwch heibio i'n gweld. Mae Cymdeithas Meddalwedd
> Cymraeg yn rhannu pabell gyda Phrifysgol Cymru Bangor (drws nesaf
> i'r Neuadd Ddawns) ar y maes.
> Hoffwn hefyd wahodd aelodau'r cylch termau i lansio Y Termiadur am
> 11 fore Mawrth (Awst 8), eto ym mhabell Cymdeithas Meddalwedd
> Cymraeg/Prifysgol Cymru Bangor. Bydd hwn yn gyfle i weld y
> geiriadur termau cyntaf i gael ei gyhoeddi fel llyfr, CD a gwefan
> ryngweithiol ar yr un pryd, a bydd Huw Thomas, cadeirydd pwyllgor
> llywio'r project, yn siaradwr gwadd.
> Gobeithio y cawn eich gweld i gyd yn y Steddfod felly,
>
> Delyth
>
> --
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
> The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
> Office. www.bangor.ac.uk
>
> <d.prys.vcf>
|