Annwyl aelodau'r cylch termau,
Mae welsh-termau-cymraeg wedi datblygu yn rhithgymuned fywiog a
gweithgar dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae rhai o'r aelodau yn adnabod ei gilydd yn dda, ond eraill heb erioed
gyfarfod â'i gilydd.
Hoffwn eich gwahodd i gyd felly i DDERBYNIAD (wel, oce, parti) ym
Mhabell Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg / Prifysgol Cymru Bangor yn yr
Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe, am 6.00 yr hwyr, nos Wener, Awst
11. Diben y noson fydd rhoi cyfle anffurfiol i aelodau'r cylch gyfarfod
â'i gilydd yn y cnawd fel petai (diriaethu'r rhithgymuned?), a dathlu
llwyddiant y cylch. Ni fydd yno areithiau ffurfiol, ond bydd yno gaws a
gwin a llawer o sgwrsio difyr gobeithio.
Os na fedrwch ddod i'r parti ar y nos Wener, bydd gan Ganolfan Bedwyr
stondin ym mhabell Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg drwy'r wythnos, felly
galwch heibio i'n gweld. Mae Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg yn rhannu
pabell gyda Phrifysgol Cymru Bangor (drws nesaf i'r Neuadd Ddawns) ar y
maes.
Hoffwn hefyd wahodd aelodau'r cylch termau i lansio Y Termiadur am 11
fore Mawrth (Awst 8), eto ym mhabell Cymdeithas Meddalwedd
Cymraeg/Prifysgol Cymru Bangor. Bydd hwn yn gyfle i weld y geiriadur
termau cyntaf i gael ei gyhoeddi fel llyfr, CD a gwefan ryngweithiol ar
yr un pryd, a bydd Huw Thomas, cadeirydd pwyllgor llywio'r project, yn
siaradwr gwadd.
Gobeithio y cawn eich gweld i gyd yn y Steddfod felly,
Delyth
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|