> Wrth edrych ar HTML gwefan Bwrdd yr Iaith gwelaf eu bod wedi defnyddio ŷ
> i gael yr y^ i ymddangos yn eu tudelannau hefyd.
Ychydig o esboniad pellach o du ôl y llenni..
Yn gyffredinol dwi'n credu y dylai unrhyw feddalwedd neu system
reoli cynnwys ar wefan guddio cymhlethdod trosi acenion i'r
ffurf cywir. Gore po cynted cyn fo defnyddwyr yn arfer teipio
acenion i fewn ym mha bynnag system a gweld y rhain yn cael ei
trosglwyddo'n gywir drwy bob cyfrwng. Os nag ydyn nhw, cwynwch
i ddatblygwyr y meddalwedd/wefan.
Ar wefan y Bwrdd, sy'n defnyddio UTF-8, mae'n bosib teipio neu
ludo cynnwys i fewn i'r CMS - mae acenion w^ a y^ a pethau
fel dyfynnodau 66/99 yn cael eu trosi i'r endid HTML cywir
(does dim wir angen gwneud hyn ar wefan UTF-8 ond mae'n gwneud
yn siwr fod pethau'n ymddangos yn iawn ar beiriannau hynafol).
|