Dyma sydd gen i wedi'i nodi arôl dod ar y draws y termau o'r blaen:
Non-formal - answyddogol - h.y unrhyw weithgarwch addysgol sydd wedi'i
drefnu y tu allan i'r system swyddogol sefydliedig.
Informal - anffurfiol - h.y. y prosesau gydol oes pan fydd unigolion yn
caffael sgiliau, gwerthoedd a gwybodaeth o brofiadau bob dydd, e.e. gan y
cyfryngau.
Meleri
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 19 July 2006 13:44
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Non-formal / informal
Wn i ddim yn iawn beth yw'r gwahaniaeth yn y Saesneg, heb sôn am geisio
efelychu hynny yn y Gymraeg. Oni fyddai 'anffurfiol' ar ei ben ei hun yn
gwneud y tro?
Rhian
Canolfan Iechyd Cymru
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Emily Williams
Sent: 19 July 2006 12:59
To: [log in to unmask]
Subject: Non-formal / informal
Helo Bawb
Tybed a all unrhyw un gynnig cyfieithiad ar gyfer 'in-formal' yn y cyd-
destun isod:
'Reviewing Adult Learning Centres across Europe, with regard to the
integration of learning provisions developed in non formal and informal
contexts'
Yn amlwg, 'anffurfiol' yw non-formal, a 'heb fod yn ffurfiol'
yw 'informal' ond mae'r ymadroddion yn lletchwith o fewn y frawddeg uchod
(h.y. '...cyd-destun anffurfiol a chyd-destun heb fod yn ffurfiol').
Fedrwch chi feddwl am ffordd daclusach o'i mynegi?
Diolch
Emily
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.
|