Yn achos 'Cymdeithas Cyfieithwyr Cyf', fe gymerais mai cwmni'r Gymdeithas
oedd yn gyfyngedig, yn hytrach na'r gymdeithas ei hun.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, July 17, 2006 4:54 PM
Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
Yn rhyfedd iawn, fe ofynnodd rhywun i fi ddiweddaru pytiau o lyfrynnau Ty'r
Cwmniau sy'n rhoi canllawiau ar ffurfio cwmniau ac enwi cwmniau yr wythnos
diwetha, ac felly fe weles i'r union bwynt a gododd Neil. Rwy'n cofio hefyd
fod Associated British Ports Ltd wedi cwyno i'r Swyddfa Gymreig ar un adeg
am ein bod ni wedi cyfeirio atyn nhw fel Associated British Ports Cyf.
Y dddeddf berthnasol, yn ôl canllawiau Ty'r Cwmnïau, yw Deddf Cwmniau 1985,
felly mae'r rheol yn hen, yn rhy hen i fod ar gael ar wefan OPSI, felly dwy
ddim yn gallu dweud pa adran sy'n disgrifio sut i enwi cwmni yn Gymraeg. Ond
mae adran 33 o Companies (Audit, Investigations and Community Enterprise)
Act 2004 yn disgrifio sut i greu enwau ar fathau newydd o gwmnïau sy'n cael
eu nabod fel "cwmniau hawl i reoli" a "chwmniau buddiant cymunedol".
Fe fyddai wedi bod yn dda pe bai Ty'r Cwmnïau wedi ymgynghori ar ryw gyfnod,
achos mae sawl cwestiwn yn codi, gan gynnwys trefn y geiriau, a threiglo:
Mae deddf 2004 yn dweud, er enghraifft, fod rhaid i "cwmni buddiant
cymunedol" gael ei roi ar ddiwedd yr enw. A bwrw eich bod chi am gael cwmni
buddiant cymunedol i wasanaethu ardal Cwm-sgwt, mae hynny'n golygu y
byddai'n rhaid ichi alw'r cwmni yn "Cwm-sgwt cwmni buddiant cymunedol".
Wedyn, os oes rhaid dewis rhwng Cyfyngedig a Cyf, ydy hynny'n golygu bod
rhaid ichi beidio â threiglo? Mae enw "Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru Cyf" fel
pe bai'n ategu hynny, ond enw "Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf" yn
awgrymu'n wahanol.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 17 July 2006 16:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
Diddorol iawn - a chwbl groes i'r cyfarwyddyd a gefais flynyddoedd maith yn
ôl!
Byddai'n ddifyr gwybod pryd y cyflwynwyd y rheol 'newydd' honno, ai drwy
ddeddf neu drwy ryw ddull arall, ac â phwy yr ymgynghorwyd. (Dyw GNyG ddim
yn crybwyll y peth dan 'limited'.)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, July 17, 2006 3:37 PM
Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
Newydd dderbyn y canlynol oddi wrth Ty'r Cwmniau:
> Yn anffodus, nid oes hawl gan gwmni gyda'r enw "ABC Ltd" defnyddio "ABC
Cyf" > mewn testun Cymraeg. Rhaid defnyddio yn union enw cywir y cwmni.
Felly bydd > rhaid i'r cwmni "ABC Ltd" defnyddio'r enw "ABC Ltd".
> Hefyd, nid oes hawl gan gwmni o'r enw "ABC Ltd" defnyddio "ABC Limted".
> Dydych chi them yn gallu troi 'Ltd' i 'Limited', ond gallwch chi newid
> 'Limited' i'r ffurf gryno 'Ltd'.
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.10.1/389 - Release Date: 14/07/2006
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.10.1/389 - Release Date: 14/07/2006
|