> 'mynediad at becynnau llawrlwytho cyflym iawn'
>
> 'mynediadau at lawrlwytho pecynnau cyflym iawn'
Dyw'r ddau yma ddim yn hollol gywir chwaith. Dwi ddim yn gwybod os
fasen i'n trafferthu cyfieithu jargon 'gynlluniwyd gan bwyllgor'
fel hwn, ond defnyddio 'HSDPA' ac efallai rhoi esboniad syml
o'r dechnoleg yn hytrach na cyfieithiad.
Dyw 'packet access' ddim yn gwneud llawer o synnwyr yn unrhyw
gyd-destun heblaw y term unigol hwn - 'packet connection' neu
'packet technology' fase'n ddisgrifiad cywir.
Efallai fod lle i ddefnyddio rhywbeth fel 'cysylltiad/mynediad
pecynnog' am fod 'packetized' yn cael ei ddefnyddio yn saesneg
fel term technegol (ond yn newid i 'packet' unwaith i'r marchnatwyr
gael gafael ar y testun).
Dim syniad os yw 'pecynnog' yn air iawn..
Os oedd rhaid cyfieithu hwn fasen i'n dweud rhywbeth fel
'cysylltiad pecyn, lawr-lwytho cyflym iawn'
Mae angen nodi fod y dechnoleg ar gyfer 'llwytho lawr' gwybodaeth
yn unig - mae danfon gwybodaeth 'i fyny' i'r rhwydwaith yn arafach
ac yn dechnoleg ar wahan.
|