Barn Robyn Léwis, ar sail sgwrs ag e ar y ffôn gynnau, yw y dylid anwybyddu
"penderfyniad rhyw Hitler bach mewn swyddfa. Petai'n mynd yn achos gerbron
llys, byddai barnwr â synnwyr cyffredin yn holi beth yw 'Cyf' ond 'Ltd' yn
Gymraeg?"
Yn atodiad 12 GNyG ('Endidau Cyfreithiol Ewropeaidd'), mae'n rhestru'r
byrfoddau am wahanol fathau o gwmnïau mewn gwahanol wledydd. Byddai'n dadlau
o blaid cadw ffurfiau fel AG ar ddiwedd enwau cwmnïau o'r Almaen ac SA am
gwmnïau o Ffrainc am eu bod yn fathau o gwmnïau sy'n wahanol i'r rhai a
gewch chi ym Mhrydain a bod gan y gwahanol wledydd eu gwahanol ffyrdd o
ffurfio cwmnïau. Ond gan ein bod ni yng Nghymru yn dod o dan yr un gyfraith
â Lloegr, byddai'n defnyddio 'Cyf' a 'Cyfyngedig' ac 'Ccc' ar ddiwedd enwau
cwmnïau heb boeni dim.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Pennawd Cyf." <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, July 17, 2006 5:03 PM
Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
Endid cyfreithiol yw cwmni, ac un enw cyfreithiol sydd ganddo, sef yr enw a
gofrestrwyd gyda Thy'r Cwmniau.
A fyddai goblygiadau cyfreithiol i drosi enwau, felly?
Claire
----- Original Message -----
From: "Gorwel Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, July 17, 2006 4:42 PM
Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
Falle nad oes hawl gan y cwmni wneud hynny ond beth sy'n ein rhwystro ni
rhag ei wneud?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
Sent: 17 July 2006 16:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
A hefyd yn gwbl groes i'r hyn y mae Draig Technology Cyf. yn ei wneud ar hyn
o bryd! Hm.
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, July 17, 2006 4:11 PM
Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
Diddorol iawn - a chwbl groes i'r cyfarwyddyd a gefais flynyddoedd maith yn
ôl!
Byddai'n ddifyr gwybod pryd y cyflwynwyd y rheol 'newydd' honno, ai drwy
ddeddf neu drwy ryw ddull arall, ac â phwy yr ymgynghorwyd. (Dyw GNyG ddim
yn crybwyll y peth dan 'limited'.)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, July 17, 2006 3:37 PM
Subject: Re: Trosi teitlau a dyfyniadau
Newydd dderbyn y canlynol oddi wrth Ty'r Cwmniau:
> Yn anffodus, nid oes hawl gan gwmni gyda'r enw "ABC Ltd" defnyddio
> "ABC
Cyf" > mewn testun Cymraeg. Rhaid defnyddio yn union enw cywir y cwmni.
Felly bydd > rhaid i'r cwmni "ABC Ltd" defnyddio'r enw "ABC Ltd".
> Hefyd, nid oes hawl gan gwmni o'r enw "ABC Ltd" defnyddio "ABC
> Limted". Dydych chi them yn gallu troi 'Ltd' i 'Limited', ond gallwch
> chi newid 'Limited' i'r ffurf gryno 'Ltd'.
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.10.1/389 - Release Date: 14/07/2006
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.10.1/389 - Release Date: 14/07/2006
|