Ydych chi efo diddordeb mewn gweithio efo cymunedau ar brosiectau bydd yn
datblygu sgiliau a hyder pobl? Os felly, mae'r Cronfa Loteri Fawr wedi
lansio rhaglen grantiau newydd a allai bod o ddiddordeb. Mae'r rhaglen yma
yn gallu darparu cyllid sylweddol ac mae'n agored i'r sector gwirfoddol,
cymunedol neu gyhoeddus.
Sylwer bydd ond un cyfle i ymgeisio, ac mae'r proses ymgeisio mewn dau gam.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cam Un yw 5 y prynhawn ar Gwener 29 Medi
2006. Gweler rhagor o fanylion isod, hefyd yn
http://www.biglotteryfund.org.uk/welsh/prog_stepping_stones.htm?regioncode=-
wal
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi lansio Cam wrth Gam, rhaglen sy'n rhoi arian i
bobl ddatblygu'r sgiliau bywyd a fydd yn eu helpu i reoli eu bywydau a
chyfrannu at eu cymunedau, neu i ail afael mewn dysgu, gwirfoddoli neu
waith. Bydd Cam wrth Gam yn cefnogi prosiectau lleol a rhanbarthol neu rhai
sy'n gweithio trwy Gymru gyfan. Byddwn yn ariannu prosiectau sy'n defnyddio
dulliau strategol ac arloesol i gyflawni tri neu ragor o'r newidiadau
canlynol:
* :pobl â gwell hunan hyder a sgiliau bywyd
* pobl sy'n cymryd cyfleoedd dysgu neu waith pellach
* pobl sydd wedi eu harfogi i reoli sialensiau a newidiadau bywyd yn
well
* pobl yn gwirfoddoli ac yn cyfrannu at eu cymunedau
Bydd Cam wrth Gam yn dyfarnu grantiau rhwng £250,000 ac £1 miliwn, gyda hyd
at 5% ar gyfer costau cyfalaf. Gallwn ariannu prosiectau am gyfnod o dair i
bum mlynedd.
Mae'r broses ymgeisio mewn dau gam. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni
cais Cam Un yw 5.00 y prynhawn ar Ddydd Gwener 29 Medi 2006. Dim ond
ceisiadau sy'n llwyddiannus yng Ngham Un fydd yn derbyn gwahoddiad i symud
ymlaen a chyflwyno cais i Gam Dau.
Eluned Jones
Cynghorydd Datblygu Archifau / Archives Development Adviser
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL: Museums Archives
and Libraries Wales
Llywodraeth Cynulliad Cymru / Welsh Assembly Government
Uned 10 Parc Gwyddoniaeth / Unit 10 Science Park
ABERYSTWYTH
SY23 3AH
Ffôn / Tel: 01970 610237
E-bost / E-mail: [log in to unmask]
Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac
nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.
Any of the statements or comments made above should be regarded as personal
and not necessarily those of the National Assembly for Wales, any
constituent part or connected body.
The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs.
On leaving the GSi this email was certified virus-free.
Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.
|