> Mae'r geiriad isod o safle Ty'r Cwmniau yn awgrymu bod "Cyf" ayb yn rhan o'r
> enw:
> "Er enghraifft, rhaid i bob enw cwmni ddiweddu yn y geiriau 'Cyfyngedig',
> 'Anghyfyngedig', 'Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus', neu eu talfyriadau neu'r
> geiriau Saesneg cyfatebol"
Mae e'n rhan o'r enw ydi, am ei fod yn anghenrheidiol nodi y math
o gwmni fel arfer, ond pan mae enw newydd yn cael ei ystyried,
mae Ltd/Limited/Cyf/Cyfyngedig/PLC yn cael ei anwybyddu.
Os oes 'Esiampl Limited' yn bodoli, all neb arall gofrestru
'Esiampl Cyf' na unrhyw ffurf tebyg fel 'Cwmni Esiampl Cyf'
Mewn ffordd, mae hyn yn golygu fod hi'n bosib defnyddio'r
fersiynau arall heb boeni eich bod yn defnyddio "enw cwmni
arall", er mai dim ond un fersiwn o'r enw sydd ar y rhestr
swyddogol.
|