> Mae'r uchod ymhlith rhestr o'r offer sydd ar gael mewn ystafell
> hyfforddi. Dwi wedi methu â chael hyd i ddiffiniad o 'smart
> screen', hyd yn oed.
Mae'n dibynnu os yw'r disgrifiad yn dod o'r gwneuthurwr neu rhywun yn
trio esbonio pwrpas y sgrîn mewn ffordd syml.
Os y cynta (mewn ymadrodd e.e. 'smart screen technology' neu mewn
priflythrennau) mi allai gyfeirio at rhywbeth penodol i'r gwneuthurwr.
Fel arall mae'n fwy tebygol eu bod yn sôn am 'sgrîn rhyngweithiol' neu
'sgrîn gyffwrdd' sy'n dangos allbwn o gyfrifiadur lle mae'n bosib
ysgrifennu neu gyffwrdd yr wyneb yn hytrach na defnyddio llygoden.
|