Aubrieta deltoidea - ond cynfas biws ydy'r Gymraeg yn llyfr blodau
Cymdeithas Edward Llwyd. (t24). Cofio mai 'purple aubretia' oedden ni'n ei
alw ym Methesda! (Cymraeg da!!!)
Catrin
----- Original Message -----
From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, June 07, 2006 2:21 PM
Subject: Y Gynfas Las
(Gan ymddiheuro am y diffyg acenion crymion)
Y mae gwraig o Fon wedi rhoi gwybod imi am blanhigyn a dyf ar fagwyrydd
yno, a elwir "y gynfas las". Y mae'r blodau'n las eu lliw, i'w gweld ar yr
adeg yma o'r flwyddyn, ac yn gymaint eu nifer ag i lwyr orchuddio'r dail.
Nid oes arno angen fawr ddim pridd, ac ymleda'n eang ac yn gyflym. Y mae
math cyffelyb sydd a blodau gwynion, a elwir "y gynfas wen".
Dywedwyd wrthyf nad yw'r blodyn ar ffurf cloch, felly hwyrach nad
Campanulata mohono. A yw unrhyw un yn gwybod am enwau Cymraeg eraill arno,
neu'r enw Lladin?
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.8.1/355 - Release Date: 02/06/2006
|