Mi gefais fy magu yn Sir y Fflint ac rwy'n credu mai Maelor Seisnig sy'n gywir, yn hytrach na Maelor Saesneg.
Ac mae yna enw ar y clofan Rwsiaidd yng nghanol yr Undeb Ewropeaidd, sef Kaliningrad. Felly mae'n bosib cyfeirio ato fel "Kaliningrad (rhan o Rwsia)" neu, a bod yn fanwl fanwl gywir, "Kaliningrad (rhan o Ffederasiwn Rwsia)".
A dene ni!
Huw Roberts
Cyfieithydd / Translator
(029) 2078 1432
07957 182 087
[log in to unmask]
Dros Gymru'n gwlad!
>>> [log in to unmask] 21/06/2006 08:20 >>>
Rwy'n anfon y neges hon ar ran Geraint Williams.
Tybed a oes rhywun yn cofio beth a ddefnyddid yn Gymraeg ar gyfer y Saesneg
'detached' yn achos yr hen 'Flintshire (detached)'? Rwy'n cyfieithu map o'r
hen siroedd cyn 1974, pan yr oedd ardal Maelor Saesneg yn cael ei gweinyddu
gan Sir y Fflint er nad oedd yn rhan o 'dir mawr' y sir honno. Mae'r map yn
cyfeirio at yr ardal hon fel 'Flintshire (detached)'. Mae gen i ail fap i'w
gyfieithu hefyd, sef map o Ewrop fodern, sydd eto'n cyfeirio at ardal o
Rwsia ger Lithwania nad ydyw yn rhan o 'dir mawr' Rwsia. Mae allwedd y map
hwnnw yn cyfeirio at 'Russia (detached)'. Unrhyw syniadau am derm Cymraeg am
'detached' yn yr ystyr hwn?
Diolch yn fawr iawn
Geraint Williams
Uwch Gyfieithydd : Senior Translator
Y Gwasanaeth Cyfieithu : Translation Service
Llywodraeth Cynulliad Cymru : Welsh Assembly Government
E-bost : E-mail [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>
Dylid ystyried unrhyw ddatganiad neu sylw a geir yn y neges hon fel un
personol ac nid o reidrwydd yn fynegiant o safbwynt Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff cysylltiedig.
Any of the statements or comments made above should be regarded as personal
and not necessarily those of the National Assembly for Wales, any
constituent part or connected body.
The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs.
On leaving the GSi this email was certified virus-free.
Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.
|