Gyfeillion,
A allwch chi fy nghynorthwyo, os gwelwch yn dda? Yn gynyddol, clywaf a
darllenaf ddefnyddio'r gystrawen "Y (gweithred) o (berf)" wrth i gyfryngau
neu swyddogion ddatgan neu ddisgrifio gweithred. Er enghraifft:
"Parhau y mae'r gwaith o drwsio'r ffordd..."
"Cynorthwyo gyda'r ddefod o gysegru'r deml"
yn hytrach na:
"Parhau y mae gwaith trwsio'r ffordd..."
"Cynorthwyo gyda defod cysegru'r deml".
Ai cystrawen Seisnig yw hon ("The (gweithred) of (berf)"), wedi ei
chyfieithu'n llythrennol i'r Gymraeg? Hwyrach fod ei defnyddio yn hen arfer
ymysg llenorion ("Yr Ymarfer o Dduwioldeb" (The Practice of Piety) Lewis
Bayly 1630, e.e.), ond nid wyf wedi arfer ei chlywed ar lafar gwlad.
Ai cywir ei defnyddio, waeth pa mor gyffredin y bo?
|