Diolch yn fawr Dafydd!
Eirian
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, May 07, 2006 2:49 AM
Subject: Re: Information/intelligence
Rwyf wedi dal swyddi o'r enw 'information officer' ac 'intelligence
analyst' yn eu tro, ac mae 'gwybodaeth' a 'hysbysrwydd' yn
swnio'n eitha teg i mi. (Gellid defnyddio cudd-wybodaeth hefyd
am 'intelligence').
Ond - beth am 'knowledge' - nid yw hwnnw'r un peth ag 'information', ac
eto 'gwybodaeth' a ddefnyddir am y ddau fel arfer.
Efallai y byddwn i'n cynnig:
Data = data.
Information = gwybodaeth (sef data wedi eu casglu a'i didoli).
Knowledge = dealltwriaeth (sef gwybodaeth sydd wedi ei drafod ac y
canfuwyd ystyr ynddo).
Intelligence = cudd-wybodaeth neu hysbysrwydd (sef gwybodaeth neu ffrwyth
ymchwil, at bwrpas penodol, a ellid ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau).
|