Ie, roeddwn i wedi bwriadu ychwanegu'r sylw "neu a ydi hynny'n rhy benagored?" ar ddiwedd y neges am yr union reswm hwnnw, ond fe ganodd y ffôn ac anfonais y neges fel yr oedd. Hoffwn eilio cynigion synhwyrol Berwyn a Siân - diolch am eich arweiniad.
Os ydi'r digwyddiad yn un hynod o ffurfiol, fe allai rhywun ystyried defnyddio 'gwahoddedigion'.
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 03 May 2006 21:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Attendee
Yn ol Bruce, ni ddylid defnyddio'r ferf "mynchu" i olygu mynd unwaith i rywbeth; mae mynychu yn golygu mynd yn aml (frequent). Byddwn i'n meddwl bod "mynychwr drama^u" fel arfer yn fwy cywir ar gyfer "playgoer" na "mynychwr drama" o ran iaith ac o ran synnwyr. Er gwaetha hyn, sylw Bruce, o ofyn iddo 'r bore 'ma, oedd bod "mynychwr" yn llai clogyrnaidd nag "ymbresenolwr/ydd/ai".
Ann
----- Original Message -----
From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 04, 2006 10:47 AM
Subject: Re: Attendee
Mae 'mynychwr' i'w weld yma ac acw ar y we (ac ambell enghraifft o 'mynychydd' hefyd), ac mae CysGeir yn cynnig 'Mynychwr drama' ar gyfer 'playgoer' - fyddai un o'r rheiny'n llai o lond ceg?
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Howard Huws
Sent: 04 May 2006 10:07
To: [log in to unmask]
Subject: Attendee
"Attendee": ymbresenolai? Ymbresenolydd?
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.5.3/331 - Release Date: 03/05/2006
Ymwadiad Ebost
Ar gyfer y derbynwyr a enwir yn unig y mae'r trosglwyddiad ebost hwn. Gallai gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol. Os nad chi yw'r derbyniwr bwriadedig, rhaid i chi beidio â chymryd camau gweithredu'n seiliedig arno, na'i gopïo na'i ddangos i unrhyw berson; byddwch cystal â chysylltu â [log in to unmask] ar unwaith os derbyniwch y neges hon trwy gamgymeriad. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled neu niwed sy'n digwydd o ganlyniad i firysau meddalwedd.
4/5/2006
Email Disclaimer
This electronic mail transmission is intended for the named recipients only. It may contain private and confidential information, If you are not the intended recipient, you must take no action based upon it, nor must you copy it or show it to anyone; please contact [log in to unmask] immediately if you have received this message by mistake. We cannot accept any liability for any loss or damage sustained as a result of software viruses.
4/5/2006
|