Helo Eirian
Ymddiheuriadau bod yr ymateb hwn braidd yn hwyr - wedi bod yn gweithio allan o'r swyddfa am 3 diwrnod!
Fel mae'n digwydd, teitl un o'n hadrannau ni yma ydi 'Health Information and Intelligence Team'. Cyn i mi ddechrau ar fy swydd, roedden nhw wedi cael y cyfieithiad canlynol: 'Tîm Gwybodaeth a Chudd-wybodaeth Iechyd'. Mae un aelod o'r tîm yn Gymro Cymraeg, a dywedodd wrthai bod y teitl yn gwneud iddo deimlo fel aelod o'r MI5! Yr unig ddewis arall i wahaniaethu rhwng 'information' ac 'intelligence' oedd 'hysbysrwydd', a dyna beth rydyn ni'n ei ddefnyddio bellach. Wedi dweud hynny, dwi ddim yn gwbl hapus gyda hynny ychwaith, felly os bydd gan rywun awgrym gwell....!
Diolch
Rhian
Canolfan Iechyd Cymru
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eirian Youngman
Sent: 06 May 2006 07:21
To: [log in to unmask]
Subject: Information/intelligence
Wele'r diffiniadau isod:
Labour market information = data from a range of sources
Labour market intelligence = an interpretation of labour market information
Rwy'n ystyried defnyddio 'gwybodaeth' am information a 'hysbysrwydd' am intelligence - oni bai y daw cynnig gwell gan rywun!
Diolch
Eirian
|