O ran y peth 'resulted' yma, ydyn nhw'n golygu "they should only be
recorded on the file as a case that led to a result if a defendant
appears"? Mae rhyw ymadrodion llaw-fer fel 'na ar gael yn Saesneg y
gweision sifil on'd oes?
Yn y swyddfeydd lle bues i yn eu canol nhw, fe allech chi glywed pethau
fel "Have you BFed my file yet?" neu "Don't forget to PA this file", pan
fyddai angen ysgrifennu BF (bring forward) neu PA (put away) ar glawr y
ffeil dan sylw a'u hanfon nhw nôl i'r storfa.
Dychmygu ydw i felly fod Geraint yn cyfieithu cyfarwyddiadau i rywun
(swyddog rhestr) mewn swyddfa, a bod y swyddog yn yr enghraifft yma yn
gorfod cadw trac ar y papurau mewn cofrestr, sydd â cholofn dan yr
enw "result". Mae'n rhoi'r papurau i'r llys (neu hyd yn oed eu ffeilio
mewn ffeil o'r enw "llys"??) ac wedyn os bydd diffynnydd yn dod i'r llys
mae'r papurau yn cael eu cofnodi yn y gofrestr fel achos sydd wedi arwain
at "result". Os na ddaw'r diffynydd, does dim "result" wedi bod, felly
does dim byd yn cael ei gofnodi yn y gofrestr ac mae'r papurau yn cael eu
gosod mewn ffeil arall, sef y suspense file.
Ond ffrwyth y dychymyg yw hyn i gyd....
|