Mae'r logo yma'n bodoli ers cyn i minne ddod i Abertawe, ond o'r hyn a geir
yn rhai o gyhoeddiadau eraill y Cyngor, rwy'n credu mai'r cysyniad yw
Abertawe fel lle, yn hytrach na dinas, a dyna pam na cheir treiglad
Diolch
Fiona
>From: GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]>
>Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
>To: [log in to unmask]
>Subject: Safer Swansea
>Date: Tue, 25 Apr 2006 16:47:21 +0100
>
>'Abertawe Mwy Diogel' meddai'r logo, a dyna fydd yn rhaid imi ei ddefnyddio
>felly. Ond gan mai dinas (eb) yw Abertawe, onid 'Abertawe Fwy Diogel'
>fyddai'n gywir? 'Y ddiweddar Fusus Jones', yntê? Neu a oes yna ryw
>gysyniad arall y tu ôl i Abertawe?
>
>Ac mae 'mhen i'n dechrau nogio erbyn hyn, ar ôl bod yn yr W^yl Ban Geltaidd
>drwy'r penwythnos ...
|