Byddwn i'n ddigon hapus defnyddio 'ringio'. Falle mai tarddiad 'ring' yw'r
hen dwyll o ddefnyddio ceffyl gwan yn lle un da. Mae'r un peth yn digwydd
gyda rasio milgwn hefyd - medden nhw - sef cael rhyw 'gylch' neu gronfa o
anifeiliaid a'u cyfnewid yn ôl y cryfder gystadleuaeth.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 25 April 2006 21:52
To: [log in to unmask]
Subject: Re: vehicle "ringing" and "cloning"
> 'ringio' car yw cymryd dau gar - un ohonyn nhw'n ddiffygiol mewn rhyw
ffordd a heb fod yn ffit i fod ar y ffordd - eu llifio yn eu hanner a'u
weldio wrth ei gilydd i greu car 'cyfan' newydd, yn gwbl anghyfreithlon wrth
gwrs. Wn i ddim ai'r tarddiad yw siâp y cylch a dorrir neu a oes rhyw
gysylltiad â 'ringer' yn yr ystyr 'rhywbeth tebyg' fel yn 'dead ringer'.
Ti'n agosach yn yr ail baragraff. Mae ystyr arall i 'ring'
o slang Americanaidd yn golygu 'imposter' a 'dead ringer'
felly yn rhywbeth digon tebyg i dwyllo rhywun.
Enghreifftiau cynnar oedd rhywun yn defnyddio dau geffyl
oedd yn edrych run fath.. a newid ceffyl gwael oedd o hyd
yn colli gyda un arall tebyg fyddai'n gallu ennill.
|