Byddaf innau'n arfer 'nod' am 'aim' ac 'amcan' am 'objective'.
Fodd bynnag, pan fydd angen cyfieithu 'aims' ar ei ben ei hun (h.y. heb
fod 'objectives' ynghlwm wrtho), rwy'n tueddu i ddefnyddio 'amcanion
cyffredinol' gan nad wyf yn gyfforddus iawn gyda 'nodau', oherwydd bod
ganddo ystyr arall. Y term y byddaf yn ei ddefnyddio am 'objectives', os
ceir y gair hwnnw yn rhywle arall yn y darn dan amgylchiadau o'r fath,
yw 'amcanion penodol'.
Wyn
|