'Yn GPC, gyda llaw, fe ddyfynnir enghraifft o 'chware a'r (sic) yr organ'.
A'r dyddiad? 1606'
Gair o sylw ar eiriaduron.
Mae'n werth nodi efallai mai Geiriadur Disgrifiadol Hanesyddol yw Geiriadur
Prifysgol Cymru. Arwyddocad hynny yw ei fod yn cofnodi defnydd iaith dros y
canrifoedd. Nid yw hynny'n golygu fod y defnydd hwnnw yn ddefnydd y byddem
yn ei gymeradwyo heddiw o raid. Geiriadur Rhagsgrifiol sy'n ceisio gosod
ffurfiau 'cywir' iaith.
Felly o edrych yn GPC ceir ffurfiau megis 'ffleio', 'belongio' etc.
GPC yw Y ffynhonnell awdurdodol sydd gennym yn Gymraeg, ond y mae gofyn fod
yn ymwybodol o natur yr awdurdod hwnnw.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Puw, John
Sent: 25 April 2006 08:27
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Playing the crwth
"chwarae'r piano ...., heb lwyddo erioed i'w gael i ganu"
Dwn i ddim am dy allu cerddorol Berwyn, ond dyma yw asgwrn y gynnen gyda'r
mater hwn. Prin iawn, iawn yw'r rhai sy'n gwneud i unrhyw offeryn ganu - ei
chwarae mae'r rhan helaethaf ohonom!
John
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Berwyn Jones
Anfonwyd/Sent: 25 April 2006 08:11
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Playing the crwth
Mae sylw Siān yn cadarnhau rhyw deimlad sy gen i fod pobl y De'n debycach o
ddweud 'chwarae' na 'canu'. Chlywais i erioed mo 'nhad, deheuwr a fu'n athro
cerddoriaeth yn ogystal ag yn athro Cymraeg, yn dweud 'canu' yn y cyd-destun
hwn. Yn sicr, chwarae'r piano wnes i, heb lwyddo erioed i'w gael i ganu!
'Canu' sydd i'w weld ym mhob rhestr o dermau cerddoriaeth rwyf wedi'i gweld,
gan gynnwys y Termiadur newydd sbon. Ond ydy hynny'n enghraifft o garfan yn
mynnu mai eu hidiom hwy sy'n gywir a bod ffordd pobl eraill o fynegi syniad
mewn ffordd an-idiomatig yn llai cywir (cymharer pleidwyr 'bwrw'r Sul' a
fu'n destun cymaint o wawd gan yr Athro T J Morgan yn ei erthygl yn y
Genhinen 'slawer dydd, a'r rhai sy'n mynnu bod 'fewer' yn gywirach na 'less'
yn Saesneg er mai mympwy rhyw ficer yn y ddeunawfed ganrif yw'r 'rheol'
honno)?
Yn GPC, gyda llaw, fe ddyfynnir enghraifft o 'chware a'r (sic) yr organ'.
A'r dyddiad? 1606 ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Siān Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, April 25, 2006 8:04 AM
Subject: Re: Playing the crwth
Fe holais i bedwar o bobl 'ar ddierth' ac ar wahān i'w gilydd heno
beth oedd "playing the piano" yn Gymraeg - y pedwar yn Gymry iaith
gyntaf o Wynedd - gwahanol oedran.
Dywedodd un ei fod yn defnyddio'r ddau derm fel ei gilydd ac, yn
ddifyr iawn, dywedodd y tri arall rywbeth fel "Chwarae dw i'n ddweud
ond canu sy'n iawn"
Roedd yn dda ganddyn nhw glywed bod Geiriadur yr Academi a Geiriadur
Prifysgol Cymru'n cadarnhau bod eu greddf yn gywir:
GPC - chwarae - "Peri i offeryn gynhyrchu seiniau cerddorol;
perfformio (darn o gerddoriaeth) ar offeryn; cyfeilio."
Wrth feddwl am gyfeilio mewn oedfa yn y capel, bydden ni ym Mhencader
yn gofyn "Pwy sy'n whare fory?" Yma, yn Nhrefor, dw i'n meddwl mai
"Pwy sy wrth yr organ?" fydde'r cwestiwn cyffredin.
Howard
Mae arna i ofn dy fod wedi camddeall fy mhwynt am Rhisiart a Glenys.
Hwyl
Siān
On 24 Ebrill 2006, at 06:46, Rhian Huws wrote:
> Mater o farn ddwedwn i! Fyswn i'n dadlau bod y naill a'r llall bellach
> yn dderbyniol.
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Howard Huws
> Sent: 24 April 2006 12:10
> To: [log in to unmask]
> Subject: Playing the crwth
>
> Anghytunaf. Canu telyn, crwth, utgorn, piano ayyb, nid "chwarae".
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.385 / Virus Database: 268.4.5/322 - Release Date: 22/04/2006
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae
Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y
rhyngrwyd yn ogystal ā'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os
ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd
wybod a dilėwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu
cynnwys y neges hon heb ganiatād fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r
farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich
cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the
sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or
disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this
document may not be official policy. Thank you for you co-operation.
North Wales Police

|