CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
Gwasanaeth Gwybodaeth Amgueddfeydd 34a
Me Gwasanaeth Gwybodaeth CyMAL yn defnyddio gwasanaeth rhestr ddosbarthu
JISC. Am wybodaeth pellach ewch i: :
http://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=museums-info&A=1
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cofnod y Trafodion
Dydd Mercher, 29 Mawrth 2006
Cynnwys
http://www.wales.gov.uk/servlet/_Toc131496079
Cwestiynau i'r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Swyddogaeth y Celfyddydau o ran Adfywio'r Cymoedd
C1 Huw Lewis: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth y Celfyddydau o
ran adfywio'r Cymoedd? OAQ0698(CWS)
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon (Alun Pugh): Mae'r
celfyddydau yn bwysig ynddynt eu hunain, ond mae ganddynt ran bwysig i'w
chwarae hefyd yn y gwaith o adeiladu cymunedau, hybu'r economi a datblygu
sgiliau. Mae'n hanfodol ein bod yn cyflwyno'r celfyddydau o Fôn i Fynwy, gan
gynnwys ardaloedd yn y Cymoedd fel Merthyr, ardaloedd nad yw ein buddsoddiad
wedi eu cyrraedd yn llawn hyd yma.
2.40 p.m.
Huw Lewis: Fe'ch llongyfarchaf, wrth fynd heibio, ar y modd yr ydych wedi
gwrthsefyll pob ymgais gan y gwrthbleidiau i ddifrodi eich gwaith yn hybu
cyfiawnder cymdeithasol yn y celfyddydau ac wrth wario ar y celfyddydau.
Croesawaf yn arbennig benodiad Dai Smith fel cadeirydd Cyngor Celfyddydau
Cymru dros dro.
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r rôl a wêl i'r celfyddydau ac i ddiwylliant
wrth ddatblygu strategaeth Blaenau'r Cymoedd, y bydd rhaid iddi anelu at
rywbeth amgenach na chanlyniadau economaidd yn unig, gwelliant parhaol yn
ansawdd bywydau ein cymunedau?
Alun Pugh: Mae hwnnw'n bwynt teg. Yn sicr mae angen buddsoddiad cyhoeddus
sylweddol ar gymunedau ar hyd Blaenau'r Cymoedd. Mae hynny'n eglur imi. O
ran penodiad Dai Smith fel cadeirydd dros dro Cyngor Celfyddydau Cymru, ni
allaf feddwl am odid neb arall yng Nghymru a allai gynnig record academaidd
mor nodedig ynghyd ag arbenigedd rheoli mawr.
Rhodri Glyn Thomas: Dim ond efe oedd am wneud y swydd.
Llywydd: Trefn. Clywais hynny.
Owen John Thomas: Beth yw'r newyddion diweddaraf am y cynnig i sefydlu
amgueddfa hanes ffotograffiaeth ym Margam, Port Talbot?
Alun Pugh: Mae hwnnw'n brosiect y mae gennyf ddiddordeb mawr ynddo. Mae
datblygu arddangosfa o gofnod ffotograffig Cymru yn brosiect diddorol iawn.
Ysgrifennaf atoch â manylion diweddaraf y cynllun hwnnw.
Owen John Thomas: Cefais ychydig o siom gan eich ateb. Byddwn wedi meddwl y
gallech wedi rhoi manylion ar sut y mae'r Llywodraeth yn cynyddu ac yn
hyrwyddo'r celfyddydau mewn ardal ddifreintiedig fel Port Talbot. Edrychaf
ymlaen at gael eich llythyr.
Mae Rhondda Cynon Taf wedi bod yn ystyried cadw ei chyfraniad tuag at
amgueddfa hanes leol Pontypridd, sydd hefyd yn ardal ddifreintiedig. A ydych
wedi cynnal trafodaeth i sicrhau bod y cyngor Llafur yn Rhondda Cynon Taf yn
rhoi cefnogaeth i amgueddfa hanes?
Alun Pugh: Gwn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gweld
gwerth yn nhreftadaeth ddiwylliannol cwm Rhondda. Mae sawl sector gwahanol
yn gyfrifol yn gyfreithiol am amgueddfeydd lleol. Mae awdurdodau lleol yn
gweithredu llawer o amgueddfeydd lleol, ac mae ymddiriedolaethau elusennol
yn berchen ar amgueddfeydd lleol eraill.
O ran eich sylwadau ynghylch ardaloedd difreintiedig, mae hwn yn ffocws
pwysig ym mholisi'r Blaid Lafur. Yr ydym am sicrhau bod y buddsoddiad
cyhoeddus sylweddol yn y celfyddydau, ac yn bwysicach na hynny, y
buddsoddiad ehangach o ran y gyllideb diwylliant yn ei chyfanrwydd, yn cael
effaith fawr ar ardaloedd difreintiedig.
Leighton Andrews: Un enghraifft o'r celfyddydau yn adfywio'r Cymoedd yw
datblygiad Plant y Cymoedd yng nghapel Soar Ffrwdamos ym Mhen-y-graig, yn fy
etholaeth, sy'n cael bron i £2.5 miliwn o gyllid gan Gyngor Celfyddydau
Cymru a chronfeydd eraill y Cynulliad. Erfyniaf arnoch i ddychwelyd i'r
Rhondda i ymweld â'r datblygiad hwnnw gan ei fod bron â'i gwblhau erbyn hyn.
Bydd yn lleoliad pwysig ar gyfer y celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol
yn ardal canol y Rhondda.
Alun Pugh: Mae'n brosiect cyffrous. Mwynheais fy ymweliad cyntaf â'r lle, a
mwynhaf bob ymweliad yn ôl adref i'r Rhondda. Byddaf yn fodlon ymweld â
phrosiect Plant y Cymoedd wrth iddo ddwyn ffrwyth.
hysbysebu i gael cadeirydd newydd i Gyngor Celfyddydau Cymru. Bryd hynny,
dim ond 10 wythnos oedd tan y
Cyllid Cadw yng Nghymoedd y De
C3 Huw Lewis: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel cyllid Cadw yng
Nghymoedd y de? OAQ0699(CWS)
Alun Pugh: Mae cynlluniau grantiau Cadw wedi cyfrannu miliynau o bunnoedd i
economïau Cymoedd y de drwy gadw adeiladau hanesyddol a henebion. Yn
ogystal, mae'n rheoli rhai o'n safleoedd hanesyddol mawreddog, megis castell
Caerffili a gwaith dur Blaenafon. Mae'r buddsoddiad mawr iawn hwn yn helpu i
adfywio llawer o gymunedau'r Cymoedd.
Huw Lewis: Yr wyf yn siwr eich bod yn cytuno bod buddsoddi yn ein
hamgylchedd hanesyddol yn hanfodol ar gyfer datblygu potensial twristiaeth y
Cymoedd. Fodd bynnag, a ymrwymwch i edrych yn fanylach ar y ffigurau gwario
hynny gan Cadw? Mae'r ffigurau diweddaraf sydd gennyf yn awgrymu nas
gwariwyd dim ym mwrdeistref Merthyr ers 1998. Mae Cadw yn darparu £0.5
miliwn y flwyddyn fesul awdurdod lleol ledled Cymru ar gyfartaledd; dim ond
hanner yr arian hwnnw a dderbynnir gan Gymoedd y de, ar gyfartaledd, felly
mae gwahaniaeth o ran cyllido sy'n debyg i'r gwahaniaeth o ran cyllido gan
gyngor y celfyddydau. Os ystyriwch sir Fynwy, sir Benfro neu Bowys yn
unigol, fe welwch fod mwy o wariant yno gan Cadw nag ym Merthyr Tudful,
Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar
Ogwr a Thor-faen gyda'i gilydd. Mae hwnnw'n anghyfiawnder cymdeithasol arall
o ran gwariant yng Nghymru. Gofynnaf ichi edrych ar y mater hwn ar frys.
Alun Pugh: Byddaf yn sicr yn edrych ar sut y dosberthir yr arian. Nid wyf yn
siwr pa un a wyf yn gwbl gyfarwydd â phob un o'r ffigurau hynny. Efallai ein
bod yn siarad am ddau gynllun grant gwahanol. Yn ôl y ffigurau sydd gennyf
fi, buddsoddwyd tua £235,000 yn ardal ddiwydiannol Merthyr, yn cynnwys
grantiau mawr i waith dur Cyfarthfa a ffordd dramiau Penydarren. Ysgrifennaf
atoch gyda'r manylion ac efallai y gallwn gysoni'r ffigurau.
William Graham: A allaf awgrymu eich bod yn defnyddio'r fenter treftadaeth
treflun, yn arbennig ym Merthyr?
Alun Pugh: Mae ein cydweithwyr yn Cadw yn gweithio mewn partneriaeth â nifer
o gyrff cenedlaethol a lleol er mwyn adfer adeiladau a chymunedau o dan
bartneriaethau cynlluniau trefi a'r fenter treftadaeth treflun. Mae nifer o
gynlluniau, yn cynnwys yn Rhymni-yr wyf yn siwr y bydd gan Huw ddiddordeb yn
y hynny-Maesteg a Chastell-nedd, ymhlith eraill, yn gwneud llawer o waith da
iawn yn y maes hwn.
Leighton Andrews: Mae fy nghyd-Aelod, Huw Lewis, yn gwneud rhai pwyntiau
pwysig am ddosbarthiad gofodol cyllid Cadw a gellid cymhwyso'r un peth i
gyrff eraill sy'n gweithio ym maes treftadaeth ddiwylliannol. Byddai'n
ddefnyddiol pe byddem yn gweld archwiliad cywir o wariant adnoddau Cadw a
chyrff eraill yn yr ardal, megis cronfa dreftadaeth y loteri. Mae llawer
ohonom o'r farn bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac eraill yn gwario llai
nag y dylent yng Nghymoedd y de.
Alun Pugh: Ni allaf siarad ar ran cyrff anllywodraethol, ond sicrhaf eich
bod yn cael dadansoddiad o gynlluniau'r Llywodraeth a chynlluniau
treftadaeth y loteri, sydd hefyd yn arian cyhoeddus, er mwyn llywio'r
drafodaeth ymhellach. Rhoddaf gopi yn y Llyfrgell hefyd.
.1.1.1 Gwasanaeth Gwybodaeth Amgueddfeydd
Os ydych yn gwybod am unrhyw un a hoffai gael ei ychwanegu i'r rhestr, neu
hoffai gael copi caled o'r newyddion, neu os ydych heb fynediad i'r we ac am
gopi caled cysylltwch â Carol Whittaker. Byddwch yn dal i dderbyn copi caled
os ydych ar y rhestr ddosbarthu presennol.
Bydd fersiwn Cymraeg a Saesneg o'r bwletin yn cael eu dosbarthu ar wahan yn
dilyn sylwadau darllenwyr.
Carol Whittaker AMA
Cynghorydd Datblygu Amgueddfeydd
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru
01970 610 238
[log in to unmask]
Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac
nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.
The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs.
On leaving the GSi this email was certified virus-free.
Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.
|