Gan fod y drafodaeth hon yn dechrau mynd yn boeth, rwy'n meddwl ei bod
hi'n amser i ni gau pen y mwdwl ar y pwnc o ganu/chwarae offeryn.
Ga i gymryd y cyfle yma i atgoffa aelodau unwaith eto o ganllawiau
trafod y cylch.
Os gwelwch yn dda, lluniwch eich cwestiynau a'ch atebion mewn dull
gwrthrychol, proffesiynol.
Peidiwch a phardduo unigolion, gan gadw dadleuon dros ac yn erbyn term
neu arddull yn rhai rhesymegol (rwy bron ag ychwanegu 'ysgolheigaidd'
ond gwell ymatal, rhag i mi gael fy mhardduo...)
Peidiwch a defnyddio'r cylch i basio negeseuon amherthnasol i waith
termau o gwmpas (dim apeliadau am noddwyr, gwybodaeth am gyfarfodydd
gwleidyddol etc). Ar y llaw arall mae'r cylch yn hapus o dderbyn
gwybodaeth am lyfrau a chyhoeddiadau neu gynadleddau perthnasol.
Cofiwch hefyd roi'r term dan sylw (ac nid teitl amwys fel 'help') yn
nheitl y neges, a pheidio newid y teitl unwaith fod llinyn wedi dechrau.
Bydd hyn yn ein helpu i gael hyd i hen negeseuon yn yr archif. Hefyd
mae'n bwysig rhoi pwt o ddiffiniad, neu esboniad o'r cyd-destun wrth
ofyn am gymorth gyda therm (cyn i rywun arall o'r cylch orfod gofyn
'beth yw'r ystyr').
Wedi dweud hyn i gyd, ga i ddiolch i bawb sy'n cyfrannu am wneud hwn yn
gylch trafod hynod o werthfawr a defnyddiol,
Delyth
Ysgrifennodd Eirian Youngman:
> Clywch clywch.....
>
> Eirian
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Rhian Huws <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Tuesday, April 25, 2006 8:43 AM
> *Subject:* Playing the crwth
>
> Gair i fynegi fy siom bod yr hyn sydd i fod yn fforwm drafod i'r
> proffesiwn cyfieithu yng Nghymru yn dechrau troi'n rhyw fath o
> fforwm gecru. Mae'n adlewyrchiad truenus ar y byd cyfieithu os na
> allwn ni fel cyfieithwyr proffesiynol gael trafodaeth o safon a
> pharchu barn y rhai sy'n gweithio yn yr un maes â ni - hyd yn oed
> os nad ydym yn digwydd cytuno â'r farn honno. Nid dyma'r lle i
> geisio gwneud pwyntiau 'gwleidyddol' - mae Cymru'n fach ac mae'r
> diwydiant hwn yn llai fyth, a'r cyfan a wna trafodaeth fel hon yw
> niweidio'n hachos. Cofiwch ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un
> nod yn y pen draw!
>
> Rhian
>
> Rhian Huws
> Arbenigwr Iaith Gymraeg/*Welsh Language Specialist*
> Canolfan Iechyd Cymru/*Wales Centre for Health*
> 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/*14 Cathedral Road*
> Caerdydd/*Cardiff*
> CF11 9LJ
>
> Ffôn/*Telephone:* 029 20227744
> Ebost/*Email:* [log in to unmask]
>
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|