Meddai Eirian Youngman:
> Cyfrinachol, cyfrinachol iawn, hynod eithriadol anhygoel ac uffernol o
gyfrinachol!!
Sy'n fy atgoffa (a hithau'n egwyl cinio) o'r cyfnod pan ddatblygodd yr uned
gyfieithu y būm yn gweithio ynddi ers talwm yr arfer o ddisgrifio rhai
tasgau fel rhai 'megabrys'. Euthum ati i ystyried pa mor bell y gellid mynd
i lawr y llwybr hwn.
Buasai'n mynd rywbeth fel hyn:-
Os ydi'r cyfieithiad yn un 'brys', mae ar y cwsmer ei eisiau yfory;
os ydi o'n un 'megabrys', mae ar y cwsmer ei eisiau heddiw;
os ydi o'n un 'gigabrys', mae ar y cwsmer ei eisiau ddoe;
ond os ydi o'n un 'terabrys' mae'r ddogfen mor yrjant fel bod ar y cwsmer
eisiau cyfieithiad ohoni cyn ei fod wedi ei hysgrifennu.
(Mwynhewch y prynhawn!)
Wyn
|