Helo bawb - newydd danysgrifio fan’ma! Falle gall rhywun fy helpu.
Dwi'n edrych ar ddogfen Saesneg o'r enw 'Routes for Learning'. Mae'r
cyfieithwr wedi defnyddio 'Llwybrau dysgu' ar gyfer y teitl. Yn anffodus,
mae 'Llwybrau Dysgu' wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen ar gyfer un o'n
cyhoeddiadau eraill yn ACCAC.
Mae'r ddogfen yn disgrifio yr amryw lwybrau mae dysgwyr sydd ag anawsterau
dwys a lluosog yn gallu eu cymryd er mwyn gwneud cynydd yn eu ‘cwricwlwm’.
Dw i wedi atodi ‘map’ (anorffenedig) sy'n mynd gyda'r ddogfen ac efallai
bydd hwn yn dangos cyd-destun y teitl yn well.
Dyma'r ymadroddion sy wedi eu hawgrymu hyd yn hyn gan bobl eraill yn yr
adran:
Y ffordd i ddysgu, Ffyrdd ar gyfer dysgu, Ar drywydd dysgu, Rhwydwaith
dysgu, Lonydd dysgu.
All unrhyw un feddwl am rywbeth mwy bachog sy’n cyfleu’r un ystyr â’r
Saesneg?
Diolch
Rhys
|