Annwyl gylch,
Gair caredig i atgoffa aelodau i roi'r term sy'n destun ymholiad ym
mlwch 'pwnc' y neges e-bost.
Mae'n llawer haws chwilio'r archifau os yw'r term wedi'i gofnodi felly.
Am wn i mae pob ymholiad yn waedd am 'help', ond dydi nodi 'help' fel y
pwnc ddim yn helpu'r cylch i ganfod hen negeseuon perthnasol.
Gan fy mod i ar fy mocs sebon, ga i gymryd y cyfle hefyd i atgoffa pawb
fod angen rhoi pwt o ddiffiniad neu gyd-destun gyda therm problemus er
mwyn i aelodau eraill y cylch fedru ymateb i'r ymholiad. Rydyn ni'n
lwcus fod gyda ni aelodau sy'n fodlon gofyn 'beth yw'r cyd-destun?' ac
ati, a mynd i drafferth i chwilio am atebion.
Diolch i chi i gyd am y trafod a'r cymorth, a Blwyddyn Newydd Dda a
Gweithgar i bawb!
Delyth
|