Diolch. Acenion amdani, felly!
Ann
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, December 13, 2005 11:53 AM
Subject: Re: to bach ar 'w' ac 'y' ar wefannau
> Wn i ddim a yw hi'n dal yn wir heddiw, ond yn y gorffennol yr oedd y
llythrennau acennog yn medru ymddangos fel cymysgedd o rifau wrth gyrraedd
cyfrifiadur rhywun arall. Ydy hyn yn dal yn wir, chwi dechnegwyr?- byddai'n
llawer mwy cyfleus cael defnyddio'r acenion. Dyma arbrawf:
> â ä ä á Â Ä À Á
Ar y cyfan mae systemau e-bost y dyddie yma yn trosglwyddo llythrennau
acennog (nodau 8-bit) heb unrhyw broblem.
Roedd eich ebost yn defnyddio amgodiad MIME sy'n sicrhau fod nodau
8-bit yn cael eu trosglwyddo yn saff (gan ddibynnu ar ddarllennydd
ebost y person arall yn deall MIME - sdim rheswm pam ddim gan ein
bod ni bron yn 2006, 10 mlynedd ar ôl o'r safonau gael eu sefydlu).
Ar y cyfan fase'n i'n dweud fod rhan fwyaf o bobl yn gallu sgrifennu a
darllen acenion a unrhyw nodau 8-bit arall heb drafferth erbyn
hyn. Gan gofio yr amrywiaeth o systemau sy'n bodoli o gwmpas y byd ac
o ran y gosodiadau sydd ar gyfrifiaduron unigol - dyw hi ddim yn
bosib rhoi sicrwydd 100% ond fasen i'n dweud fod hi'n ddigon agos i
hynny erbyn hyn.
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.371 / Virus Database: 267.13.13/198 - Release Date: 12/12/05
|