Annwyl Gyfeillion,
Dyma dri ymadrodd.
Pleidleisiwch!--
1. Establish arrangements for the consistent collection and analysis of
recruitment data and periodic reviews of market intelligence.
Naill Ai:
(a) Sefydlu trefniadau ar gyfer casglu a dadansoddi cyson o ddata
recriwtio ac adolygiadau rheolaidd o wybodaeth marchnad.
neu:
(b) Sefydlu mecanweithiau ar gyfer casglu a dadansoddi data recriwtio'n
gyson ac adolygu gwybodaeth marchnad yn rheolaidd.
[ond a ydi hon yn dehongli ystyr y gwreiddiol yn gywir?]
neu:
(c) Sefydlu trefniadau ar gyfer casglu a dadansoddi data recriwtio ac
adolygiadau rheolaidd gwybodaeth marchnad yn gyson.
neu:
(ch) Sefydlu trefniadau ar gyfer casglu a dadansoddi data recriwtio ac
adolygu gwybodaeth marchnad yn rheolaidd yn gyson.
[Na, dydw i ddim o ddifri!]
2. Appropriate monitoring of outcomes, including cost effectiveness.
Naill ai:
(a) Monitro deilliannau'n briodol, gan gynnwys cost-effeithiolrwydd.
neu:
(b) Monitro priodol o ddeilliannau, gan gynnwys cost-effeithiolrwydd.
3. A competence based assessment of training needs.
Naill ai:
(a) Asesu anghenion am hyfforddiant ar sail cymhwysedd.
neu:
(b) Asesiad ar sail cymhwysedd o anghenion am hyfforddiant.
neu:
(c) Asesiad o anghenion am hyfforddiant ar sail cymhwysedd.
Wyn
|