Yn dilyn sesiwn ar ramadeg a gafodd staff yr Uned gyfieithu yma ym Mhowys gyda
Mr David Thorne, lle buom yn trafod y mater hyn, dyma'r nodyn a gawsom ganddo:
"Bydd y genidol cyfrannol yn dynodi mesur neu gafran neu gyfran - a defnyddir yr
arddodiad 'o' i ddangos mai rhan yw’r enw cyntaf yn yr olyniad o gyfanswm mwy. Er
enghraifft, yn yr olyniad darn o’r mynydd mae’r mynydd yn gyfanswm o ‘ddarnau’.
Ac yn yr olyniad a ysgogodd ein trafodaeth sef aelod o staff, mae’r staff yn
gyfanswm o amryw ‘aelodau’. Enghreifftiau cyffredin pellach:
dydd o haf
rhan o’r bwthyn
peint o gwrw
bwcedaid o laeth
galwyn o betrol
y trydydd Sul o’r mis
haid o hwyaid
aelod o’r Pwyllgor
llwyth o lo"
Menna
----- Original Message -----
From: Glenys M Roberts <[log in to unmask]>
Date: Friday, December 9, 2005 2:04 pm
Subject: Re: recreational use of drugs
> Efallai (wedi'i danlinellu a chyda sawl marc cwestiwn ar ei ôl)
> mai rhai o'r cyfryw gyhoedd yw'r 'aelodau', nid y cyhoedd i gyd!
> Mae'r mater yma'n fwy cymhleth nag y mae'r drafodaeth yn ei awgrymu!
> Glenys
> ----- Original Message -----
> From: Mary Jones
> To: [log in to unmask]
> Sent: Friday, December 09, 2005 1:24 PM
> Subject: Re: recreational use of drugs
>
>
> Rydw i'n tybied eu bod nhw'n wahanol. Byddwn i'n defnyddio'r
> cyntaf am 'members of the Council's staff are on strike'. Byddwn
> yn defnyddio'r ail am 'the Councils' staff members are on strike'.
>
> Ydych chi wedi sylwi hefyd sut mae'n rhaid dweud 'aelodau o'r
> cyhoedd' byth a hefyd, dim ond am fod 'members of the public' yn
> Saesneg. Y cyhoedd ydyn ni, a dim arall. Os dwy i ddim yn siwr
> beth i'w ddweud am 'a member of the public'. 'Person'? Na, yn sicr
> meddai rhai. Beth am 'rhywun', te?
>
> Mary
>
>
>
>
> -------------------------------------------------------------------
> -----------
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
> Of David Bullock
> Sent: 07 December 2005 15:08
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: recreational use of drugs
>
>
>
> Ond...
>
>
>
> Ydy 'aelodau o staff' yn wahanol i 'aelodau staff' mewn
> brawddegau fel y rhain:
>
>
>
> Mae aelodau o staff y Cyngor ar streic. (rhai o'r aelodau)
>
>
>
> Mae aelodau staff y Cyngor ar streic. (yr aelodau i gyd)
>
>
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf
> Of Alwyn Evans
> Sent: 07 December 2005 14:42
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: recreational use of drugs
>
> Cytuno'n llwyr - byddaf yn ceisio defnyddio berfenw lle bynnag
> y bydd yn bosib - mae'r Saesneg yn llawer rhy hoff o'r amhersonol,
> y goddefol a'r enw yn hytrach na berfenw.
>
>
>
> Oes rhywun arall fel fi sydd hefyd yn ffromi wrth weld
>
> 'lefelau o absenoldeb', 'gwarantau o gyflogaeth' ac 'aelodau o
> staff ' ?- hepgor yr 'o' amdani !
>
>
>
> Alwyn
>
|