Wedi cael copi o O Lygad y Ffynnon gan Bruce a sganio i mewn y darn o'r
Croniclau sy'n ymwneud ag Ynys Mon. Mae crynodeb o'r un hanes mewn gwaith
arall gan Tacitus y dyfynnir ohono hefyd, sef Hanes Bywyd Agricola. Ceir y
ddau ddarn isod. Wrth gwrs, mae'r sillafu braidd yn wahanol, ond cofiwch y
gallaf innau hefyd fod wedi ychwanegu gwallau wrth sganio. Os oes unrhyw
amheuaeth, Sian, cysylltwch a fi ar gyfer cadarnhad.
Ann
Tacitus yn dweud hanes Buddug (Annales xiv, 29-30)
29
Yn y flwyddyn yr oedd Caesennius Paetus a Petronius Turpilianus yn
gonsuliaid, bu lladdfa fawr ar y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Tra ym Mhrydain, y
cwbl wnaeth Aulus Didius, fel y dywedais o’r blaen, oedd dal gafael yn yr
hyn yr oeddym eisoes wedi ei ennill; a diffeithiwyd rhandir y Siluriaid
hefyd, trwy ryw fan ymosodiadau, gan ei olynydd Veranius; a lluddiwyd yntau
hefyd gan farwolaeth rhag dwyn ymlaen y rhyfel ddim pellach. Gwr oedd
Veranius, yn ystod ei fywyd, o gymeriad uchel ar gyfrif ei ysbryd anibynnol,
ond yn ei eiriau olaf, y rhai a gofnodir yn ei ewyllys, a fradychodd duedd
at wenìeithio; canys ar ol gorfoli llawer ar Nero, dywedodd y buasai efe, pe
cawsai fyw rhyw ddwy flynedd yn ychwaneg, yn sicr o ddarostwng y Prydeiniaid
dan awdurdod Rhufain. Ond y pryd hwnnw llywodraethid Prydain gan Paulinus
Suetonius, yr hwn oedd yn cydymgais â Corbulo mewn gwybodaeth filwrol ac am
ffafr y bobl - ffafr na chaniateir i neb ei mwynhau heb wrthwynebwr, a'r hwn
hefyd oedd yn awyddus, drwy ddarostwng pob gwrthryfelwr, i ennill cymaint
anrhydedd ag a enillodd Corbulo drwy adfeddiannu Armenia. Am hynny fe
barotodd i ymosod ar Fon, ynys enwog am ddewrder ei thrigolion ac fel noddfa
ffoaduriaid, a gwnaeth longau gyda gwaelod gwastad iddynt oherwydd y bâs
leoedd ac ansicrwydd y môr. Yn y rhai hyn y croesodd y gwyr traed; y
meirchfilwyr hefyd a’u dilynasant drwy rydio neu ynte, lle yr oedd y
dyfroedd yn rhy ddwfn, drwy nofio wrth ochrau’r ceffylau.
30
Ar y lan safai byddin y gelynion, tyrfaoedd o wyr arfog, a merched yn
rhuthro’n ol a blaen drwy'r rhengoedd, wedi ymwisgo mewn du fel ellyllon,
eu gwallt yn chwifio yn yr awyr, a ffaglau’n fflamio yn eu dwylaw. O’u
hamgylch safai’r Derwyddon, a’u dwylaw’n estynedig tua’r nefoedd, yn tywallt
eu gweddiau erchyll. Dychrynasant ein milwyr gyda'u hymddanghosiad
dieithriol; yn gymaint felly nes peri iddynt, fel pe buasai eu holl aelodau
wedi eu parlysu, beryglu eu bywyd, heb wneyd dim osgo i symud o'r ffordd.
Yna, mewn canlyniad i gymhellion taer eu cadfridog, a chan symbylu’r naill y
llall i beidio caniatau i dorf o wrageddos penboeth eu dychrynnu,
rhuthrasant ar y Prydeiniaid, medasant bawb a safai yn eu herbyn, a
chaeasant y gelyn i fewn yn y tân a gyneuasid ganddynt hwy eu hunain. Wedi
hynny gosodwyd gwarchodlu i wylio’r gorchfygedig. Dinystriwyd y llwyni hefyd
oedd gysegredig i’w hofergoelion gwaedlyd ; canys ystyrient hi’n ddyledswydd
grefyddol i daenellu eu hallorau a gwaed carcharorion, ac i chwilio allan
ewyllys eu duwiau mewn ymysgaroedd dynol. Tra yr oedd Suetonius yn brysur
gyda’r gorchwylion hyn, hysbyswyd ef fod y dalaeth wedi codi’n sydyn mewn
gwrthryfel.
Hanes Bywyd Agricola, gan Tacitus
Agricola ym Mhrydain
15
Wedi hyn bu Suetonius Paulinus yn rheoli'n llwyddiannus am ddwy flynedd.
Goresgynnodd rai o'r llwythau a chadarnhaodd y gwarchleoedd Rhufeinig; a
chan ymorffwys yn gwbl ar y rhai hyn, ymosododd ar Ynys Mon, ffynhonnell
barhaus adgyfnerthiad i'r gwrthryfelwyr; ond ni ddarparodd rhag ymosodiad y
gelyn o'i ol.
----- Original Message -----
From: "Pawl" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 04, 2005 12:00 AM
Subject: Re: Tacitus
> Wedi bod yn pori yng Nghofiant Agricola gan Tacitus a gyfieithwyd gan A.O.
Morris (GPC 1975).
> Ceir cyfeiriad yn llyfryddiaeth y gyfrol at gyfrol John Owen Jones sef O
Lygad y Ffynnon sy'n'cynnwys cyfieithiadau o waith 'haneswyr boreuaf Cymru'
gan gynnwys Tacitus. Dywedir fod cyfieithiad o'r Croniclau (sef xiv 29-39)yn
y gyfrol honno. Cyhoeddwyd O Lygad y Ffynnon yn y Bala yn ôl ym 1899.
Cyhoeddwyd rhai o'r trosiadau hyn yn y cylchgrawn Cymru vi (1894), vii.
>
> Paul Birt
> -----Original Message-----
> From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
> Date: Fri, 4 Nov 2005 20:00:38
> To:[log in to unmask]
> Subject: Tacitus
>
> A wyr rhywun am gyfieithiad Cymraeg o adroddiad Tacitus am gyfarfyddiad y
> Rhufeiniaid a'r Monwysion - (Tacitus Annals XIV.xxix-xxx.)
>
> Byddwn yn ddiolchgar iawn
> Cofion
> Siân
>
> Paul W. Birt, PhD
> Chaire d'Études celtiques,
> Université d'Ottawa,
> 70, rue Laurier,(131)
> Ottawa,
> K1N 6N5
> Ontario
> Canada
> www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
> Tél. (613)562-5800(3767)
> Téléc/Fax (613)562-5138.
>
>
>
|