Barn bersonol yn unig. Pan fyddaf yn cyfieithu cofnodion Rheoli Datblygu,
ar gyfer Cyngor nad yw gan milltir oddi wrthych, Heledd, defnyddiaf "eiddo"
fel arfer ar gyfer premises, ac "anedd" ar gyfer "dwelling". Ni allaf holi
Bruce y munud yma, ac nid wyf yn honni gwybod yn well na Robyn Lewis, ond
imi, mae "anheddau" yn golygu mwy nag un lle - lluosog go iawn - a
"premises" yn rhyw fath o luosog ffug (fel mae "views" = "barn").
Ann
----- Original Message -----
From: "Heledd Mitchell" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 29, 2005 2:26 PM
Subject: Premises Licence
A oes term cydnabyddedig?
Mae hyn yn achosi anhawster, ac yr wyf yn awyddus i ddefnyddio'r term
priodol gan ein bod wrthi'n cyfieithu sawl dogfen/darn o ohebiaeth ar hyn o
bryd ynglŷn â'r Ddeddf newydd. A fyddai'n briodol inni ddefnyddio 'anheddau'
am 'premises'? Yr hyn sy'n peri inni ffafrio 'anheddau' yw'r esboniad yng
Ngeiriadur Newydd y Gyfraith, sy'n cwmpasu sawl elfen, tud. 680: "Gall
anheddau olygu adeilad, neu dir (neu gyfuniad ohonynt)....Yn amlach na
heb-ond nid bob amser yn gywir-trosir "premises" yn "adeiladau".
I'r perwyl hwn, hwyrach y byddai'n ddoethach defnyddio 'adeiladau' - hyn o
bosib yn gliriach, ond nid yw'n ffitio bob tro, yn enwedig yng nghyd-destun
Deddf Trwyddedu 2003.
Nid yw'r Cynulliad yn defnyddio 'anheddau', felly buaswn yn gwerthfawrogi
unrhyw gyngor.
Diolch yn fawr,
Heledd
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.362 / Virus Database: 267.13.8/184 - Release Date: 27/11/05
|