Does gen i ddim co gweld trafodaeth am y gair yma - os bu trafod, maddeuwch
i mi. Mae'n ymddangos fwyfwy mewn dogfenna swyddoogol - roeddwn i wedi
gobeithio y basa fo'n mynd i ffwrdd taswn i'n ei anwybyddu o, ond na, fel
pob bri air, ennill ei blwy mae o. Mae'n ymddangos i mi na dydi o'n golygu
dim gwahanol i 'maes gorchwyl' neu 'maes llafur' neu hyd yn oed dim ond
'maes' ond ella bod yr ola braidd yn rhy llac. Dwi wedi gofyn i'r cleient a
heb eto gael ateb ond yn y cyfamser faswn i'n ddiolchgar am unrhyw ganllaia
- be fyddwch chi'n ei ddefnyddio?
Diolch
Annes
|