Methu ffeindio 'fidelity' mewn cyd-destun ariannol yn unman.
Ai 'cywirdeb' fyddech chi'n ddefnyddio fan hyn?
Diolch
Catrin
Catrin Alun
3 Clos Glanlliw
Pontlliw
Abertawe/Swansea
SA4 9DW
01792 898327/01792 898222
----- Original Message -----
From: "annes" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, November 12, 2005 11:52 AM
Subject: identify
> Wn i bod yna drafodaethau fyrdd wedi bod ar 'identify' ond yn yr achos yma
> mae hi wedi mynd yn nos arna i. Does na fawr o ddiben gofyn i'r cleient
> achos dydi o ddim yn medru Cymraeg ac egluro'r gwahaniaethau rhwng
> 'uniaethu', 'adnabod' a 'chanfod' ydi craidd y broblem yn y lle cynta.
> Brawddeg gynta adroddiad gan Gyngor Sgiliau Sector y Diwydiannau Creadigol
> a Diwylliannol ydi hon:-
>
> "Culture, creativity and performing talent have long served to identify
> Wales both to itself and the wider world. Indeed, there can be very few
> national anthems in which a group of creative practitioners are honoured
> above all others!"
>
> Dwi'n teimlo bod 'adnabod' yn rhy gry - mae'n awgrymu na dydan ni na neb
> arall yn adnabod Cymru blaw am y pethau hyn. 'moddion/nodau
> canfod/uniaethu' tybed? Neu 'nodi' ella? Ee 'Ers talwm ei diwylliant ayyb
> sy'n nodi Cymru ayyb' Mwya dwi'n meddwl am y peth mwya dwi'n drysu, ac yn
> meddwl ydi'r frawddeg yn golygu rwbath o gwbwl?
>
> Help, plis. Diolch ymlaen llaw.
>
> Annes
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.362 / Virus Database: 267.12.8/166 - Release Date: 11/10/2005
>
>
|