Yn ôl un wefan gynhwysfawr, sef
http://ecoport.org/perl/ecoport15.pl?searchType=entityTaxonSearch&taxonName=Salix
Salix purpurea yw'r enw Lladin, a'r enwau eraill ar y goeden yn Saesneg yw
purple osier, purple willow, basket willow, bitter willow a whipcord willow.
Os yw hynny o unrhyw gymorth...
----- Original Message -----
From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 22, 2005 3:26 PM
Subject: Re: Rose Willow
Y cefndir yw fy mod i wedi derbyn ymholiad gan ddyn sy'n gweithio ar gynllun
gardd eglwys yn Hen Golwyn. Ei union eiriau oedd :
>>
I want to tell people that a particular tree is a Rose Willow
I have had many different ideas from Rhosyn Heligain to Helygen Rhosyn and I
am as confused now as I was when I started.
I believe that it may be Rhosen Helygen.
>>
Gan nad oedd dim byd tebyg ar y we, mi holais ambell un a mynd ati i chwilio
eto, a daeth ateb i'r amlwg yn y cyfamser. Rhoddir 'Salix helix' fel enw
Lladin y Rose willow ar y wefan yma :
http://www.2020site.org/trees/willow-tree.html
'Purple osier' yw enw arall ar y 'salix helix' mewn mannau eraill. At
hynny, enw arall a briodolir i'r 'Purple osier' yw'r 'Purple Willow' yn ôl
ffynhonell arall, ac erbyn gweld, mae G.yr A. yn rhoi 'helygen gochlas' ar
gyfer honno dan yr enw Lladin 'Salix purpurea'.
Mae'n ddrwg gen i'ch poeni chi - fel y dywedais yn fy neges gyntaf, "Mae'n
debyg fod yr ateb mor amlwg fel nad ydw i'n ei weld o o flaen fy nhrwyn".
Os bydd rhywun o'r farn fod gwahaniaeth rhwng yr helygen gochlas a'r rose
willow, gadewch i mi wybod.
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Vaughan-Thomas,
Paul
Sent: 22 November 2005 14:37
To: [log in to unmask]
Subject: FW: Rose Willow
Beth yw'r cyd-destun Huw? Ai enw'r planhigyn cyffredin sydd yma, Rosebay
Willowherb?
> ----------
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of Huw
> Tegid[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 22 November 2005 13:01
> To: [log in to unmask]
> Subject: Rose Willow
>
> Mae'n debyg fod yr ateb mor amlwg fel nad ydw i'n ei weld o o flaen fy
> nhrwyn, ond beth ddywedech chi ydi 'Rose Willow' yn Gymraeg?
>
> Cofion gorau,
>
> Huw
>
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.362 / Virus Database: 267.13.5/177 - Release Date: 21/11/2005
Ymwadiad Ebost
Ar gyfer y derbynwyr a enwir yn unig y mae'r trosglwyddiad ebost hwn.
Gallai gynnwys gwybodaeth breifat a chyfrinachol. Os nad chi yw'r derbyniwr
bwriadedig, rhaid i chi beidio â chymryd camau gweithredu'n seiliedig arno,
na'i gopïo na'i ddangos i unrhyw berson; byddwch cystal â chysylltu â
[log in to unmask] ar unwaith os derbyniwch y neges hon trwy gamgymeriad.
Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled neu niwed sy'n
digwydd o ganlyniad i firysau meddalwedd.
22/11/2005
Email Disclaimer
This electronic mail transmission is intended for the named recipients only.
It may contain private and confidential information, If you are not the
intended recipient, you must take no action based upon it, nor must you copy
it or show it to anyone; please contact [log in to unmask] immediately if
you have received this message by mistake. We cannot accept any liability
for any loss or damage sustained as a result of software viruses.
22/11/2005
|