Un o'r pethau diddorol am enwau lleoedd yw bod y sillafiad Saesneg yn aml yn
cofnodi'r ynganiad a glywid yn lleol Brin ore (Bryn ac 'o^r', ynganiad
'oer' yn y de; Aberdare yn cadw 'a' (e) hir y dafodiaith, a hyd yn oed
ca'diff y Caer Dyf wreiddiol? Am enghreifftiau mwy eithafol gw. y llyfr
diweddar ar Enwau Lleoedd yr Alban sy'n cael eu dehongli trwy briodi
ynganiad lleol (yn yr Alban) gydag enwau a geiriau Cymraeg fel olion byw o'r
Frythoneg a ragflaenai Gaeleg yr Alban ac a oedd yn sylfaen i enwau hynaf Yr
Alban.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of H.K.Smith
Sent: 21 November 2005 14:32
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Brinore Tramroad
O gofio'r monoptoneiddio sy'n digwydd yn naturiol yn y rhan honno o'r
Wlad, Bryn-ôr fyddai'r ynganiad hanesyddol
(Gyda llaw - ymddengys mai ffurf or-gywir ar 'Bargod' yw Bargoed - dileu
monoptoneiddiad na ddigwyddodd erioed - cymharer â'r ffurf 'disymwyth'
sydd i'w chlywed weithiau mewn lleferydd gofalus yn y De.)
Helen
Ysgrifennodd Sian Roberts:
> Nage - sori - awgrymu mai rhywbeth tebyg i "Bryn Oer" (brin-oi-er) maen
> nhw'n ddweud mae e. Ie?
>
> Dryslys ar y Dramffordd!
> Siân
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
> Løvgreen
> Sent: 21 November 2005 13:22
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Brinore Tramroad
>
> Wel, mae 'Brinore' i fi yn edrych fel pe bai'r acen i fod ar y diwedd -
> fel
> 'galore' er enghraifft?
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, November 21, 2005 1:03 PM
> Subject: Re: Brinore Tramroad
>
>
> Diolch Geraint - ydi ond mae "Brynoer" yn ymddangos 57 o weithiau ar
> Gwgl!
> Meddwl oeddwn i tybed lle mae'r acen ar y gair yn y Gymraeg. Mae
> "Brinore" yn awgrymu erallai eu bod yn dweud "Brynoer" â'r acen ar y
> "Bryn" yn hytrach na "Bryn Oer" - mae pethau od yn digwydd i eiriau
> Cymraeg mewn ardaloedd di-Gymraeg weithiau!
>
>
> Diolch
> Siân
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
> Løvgreen
> Sent: 21 November 2005 12:31
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Brinore Tramroad
>
> 1) Mae "Bryn Oer Tramroad" yn ymddangos 45 gwaith ar Gwgl. Ar wefan y
> Dramffordd
> http://brinore-tramroad.powys.org.uk/
> maen nhw'n cadarnhau mai llygriad o "Bryn Oer" ydi'r enw ac yn egluro
> pam eu
> bod nhw wedi cadw'r erthyl 'Brinore'.
>
> Tramffordd Bryn Oer amdani felly.
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, November 21, 2005 12:16 PM
> Subject: Brinore Tramroad
>
>
> Helo!
> Rwy'n gweithio ar ddarn am y Brinore Tramroad - sy'n rhedeg o ardal
> Tredegar i'r gamlas yn Nhal-y-bont ar Wysg.
> Rhai cwestiynau:
> 1) Enw Cymraeg: Tramffordd Brynoer / Bryn-oer / Bryn Oer ?
> 2) Ai "tramiau" fyddai'r enw Cymraeg am y cerbydau oedd yn rhedeg ar y
> dramffordd?
> 3) Ai "haliers" fyddai'r enw Cymraeg am "hauliers"?
> 4) Os oedd y tramiau'n rhedeg yn rhy gyflym i lawr y rhiw, byddai darn o
> bren yn cael ei roi yn yr olwynion - "a wheel being locked (spragged)
> with
> a piece of wood". Mae GyrA yn rhoi "strôc", "strocen" a "sbrogen"
> am "sprag (n)" a "strocio" am y ferf. Mae CysGair yn rhoi "sbragio" am
> y
> ferf. Tybed pa ffurf fyddai'n cael ei defnyddio yn yr ardal benodol
> hon?
> 5) Roedd y mannau pasio'n cael eu galw'n "turnouts". Oes gair Cymraeg?
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
=^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^=
|