Dim amser i ofyn i Bruce, gan ein bod ni'n gadael toc, a fyddan ni ddim yn
ol tan nos yfory. Ar ben hynny, fydd hyn ddim yn fawr o iws ichi gan fod y
geiriau'n dal i gael eu defnyddio er gwaethaf cwynion Bruce.
Yn ol yr hyn y deallaf, gair gwneud yw "gwerthuso", ac nid yw'n dilyn
rheolau naturiol ffurfio berfau. Hynny yw, 'does dim gair "gwerthus" y gall
fod wedi tarddu ohono. Ar ben hynny, mae 'na eiriau eisoes mewn bodolaeth,
megis "cloriannu" a fyddai'n cyfleu'r syniad. Ceisiaf ddefnyddio geiriau
naturiol lle bo hynny'n bosibl, ond yn y byd addysg maen nhw wedi sefyldu eu
harferion eu hunain. Mae'n debyg y bydd yn rhaid dangos "gwerthuso" ac
"arfarnu" yng NgyrA ryw ddydd, gan fod geiriadur i fod i adlewyrchu yr hyn a
ddefnyddir, hyd yn oed geiriau sathredig.
O edrych yng Nghysgeir, mae dewis o eiriau ar gyfer appraise ac evaluate.
Mae gwerthuso'n codi dan y ddau, ac arfarnu ddim o gwbl. Ond o chwilio am
arfarnu, mae'n codi yn yr ymadrodd "arfarnu project (sic)" - project
appraisal. Mae gen i ryw argraff mai fel 'na y mae, gwerthuso ar gyfer
evaluate; arfarnu ar gyfer appraise. Bydd eraill mwy gwybodus yn y byd
addysg yn medru dweud, ond roedd yn rhaid imi gael dweud fy mwt!
Cofion,
Ann
----- Original Message -----
From: "Gorwel Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, November 02, 2005 11:01 AM
Subject: Arfarnu ac ati
> Help!
>
> Ces i fy nysgu mai arfarnu yw evaluate a gwerthuso yw appraise ond
> bellach mae rhai o sefydliadau ac unigolion mwyaf hybarch ac anrhydeddus
> y genedl yn dweud fel arall.
>
> A oes modd penderfynu pa un sy'n dderbyniol?
>
> Nid yw Geiriadur yr Academi yn taflu llawer o oleuni ar y mater.
>
> Gorwel
>
>
|