Mae'n ddrwg gen i am 'gamddefnyddio'r' rhestr fel hyn - ond dwi'n trio
ffeindio allan sut i greu neges i ddweud y byddaf i ffwrdd yr wythnos nesa.
Dwi'n gwybod bod rhai ohonoch chi'n eu defyddio, ac yn gobeithio y gallech
fy nghyfarwyddo! Cewch ateb yn ol i nghyfeiriad ebost i yn lle gwneud
llanast o'r archifau.
Diolch yn fawr iawn!
Catrin
Catrin Alun
3 Clos Glanlliw
Pontlliw
Abertawe/Swansea
SA4 9DW
01792 898327/01792 898222
----- Original Message -----
From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 17, 2005 4:28 PM
Subject: Re: issue = problem
Beth fyddai ymateb rhywun digartref i'r cwestiwn hwn???
Helen
Ysgrifennodd Berwyn Jones:
> Ydych chi wedi sylwi ar ymlediad y gair 'issue' i olygu 'problem' neu, yn
> hytrach, i osgoi defnyddio'r gair 'problem'? 'I don't have an issue with
> that' neu 'we'd better meet to discuss your financial issues' ac
> ymadroddion o'r fath. Mae'n debyg mai'r awydd diweddaraf yw osgoi bod â
> "phroblemau" o unrhyw fath.
> Y broblem, y cwestiwn neu'r 'issue' sy'n codi wedyn yw sut mae
> cyfieithu'r gair 'issue'? A ddylid dweud 'problemau' yn blwmp ac yn blaen
> neu chwilio, fel y llefarydd, am ffordd o osgoi defnyddio'r gair drwy
> ddweud, er enghraifft, 'Dyw hynny ddim yn fy mhoeni i/Dyw hynny ddim yn
> achosi trafferth i mi'? Ond beth am 'financial issues'? Go brin bod
> 'materion ariannol' yn cyfleu natur broblemus yr hyn sy'n cael ei ddweud,
> ac efallai fod 'trafferthion ariannol' yn rhy ddiflewyn ar dafod. Byddai
> 'eich sefyllfa ariannol' yn dirionach cynnig, wrth gwrs, ond a ddylem ni
> chwilio am dirionach ymadrodd bob amser?
> A pha eiriau eraill sy'n newid eu hystyr (neu y gwyrdroir eu hystyr) fel
> hyn?
> Berwyn
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
=^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^=
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.12.0/134 - Release Date: 10/14/2005
|