Dyma bedwar esboniad parthed yr aderyn:
1. Nid yw namyn bilidowcar, aderyn go gyffredin yn y parthau hynny.
2. Nawddsant Lerpwl yw Sant Ioan y Diwinydd, a'i arwydd yw yr eryr. Gallai
cynnig anfedrus ar ddarlunio eryr fod yn debyg i filidowcar.
3. Gan y Brenin Ioan y derbyniodd Lerpwl ei breinlen gyntaf. Byddai'r
freinlen honno wedi dwyn se^l Ioan, a ddangosai ei arwydd personol: yr eryr
(gw. uchod).
4. Ceir y "liver bird" yn arfbais teulu Livermore (Essex). Gall fod yn enw
ar aderyn anhysbys a geid ar un adeg yng nghorsydd Lloegr.
HH.
|