Cytunaf y dyled gwahaniaethu. Awgrymaf hydroleg" ar gyfer "hydrology", a
"hydrawleg" ar gyfer "hydraulics". "awlos" oedd ynganiad y gair Groegaidd
(mae Bruce wedi ei ysgrifennu yn iaith Groeg hefyd, ond ni allaf ei ddangos
heb lawer o drafferth - AC.): cymeraf mai ynganiad Groed modern yw
"aflis"(?).
Byddai disgwyl i'r ansoddair (hydraulics) gydweddu a'r enw, gan greu
"hydrawlig", er nad oes yr un angen gwahaniaethu, gan mai "hydrological" -
"hydrolegol" a geir yn cydfynd a "hydrology". Arddelir "hydrawlig" yn y
"Geiriadur Termau. Fe'i ceir yn NgPC, sy'n croesgyfeirio at "hydrolig".
Ynglyn ag awgrym Mary Jones: yn anffodus, terfynau *ansoddeiriol" yw "-ig"
fel rheol, nid *enw* (gydag eithriadau benthyg megis "tonig", "letrig",
"clinig" - diau bod ambell un arall!) Hyd y gwn nis defnyddia yn enw unrhyw
wyddor. Daliaf mai "hydrawleg" (enw) a "hydrawlig" (ansoddair) yw'r atebion
lleiaf anfoddhaol.
----- Original Message -----
From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 07, 2005 10:22 AM
Subject: Hydraulics a Hydrology.
> Rhydd GyrA "Hydroleg" am "Hydrology" a "Hydraulics", ond y mae gwahaniaeth
> sylfaenol rhyngddynt.
> "Hydraulics" = gwyddor nodweddion mecanyddol symudiad hylifau mewn tiwbiau
> neu sianelau.
> "Hydrology" = gwyddor presenoldeb dwr ar y ddaear ac yn ei hawyrgylch, y
> defnydd a wneir ohono, ei lif, ayyb.
>
> O gadw "Hydroleg" am "Hydrology", oes yna enw arall ar
> gyfer "Hydraulics"? "Hydroligau", efallai? Neu ga'i fod mor hy ag
> awgrymu "Hydrafleg"? (O gofio bod "hydraulics" yn tarddu o "hydor" (dwr)
> ac "aflis" (pibell).
>
> HH.
>
>
|