Dydi'r gair yma jyst ddim yn ffitio i batrwm yr iaith heb greu amwysedd -
di'n cytuno efo Bruce mai atgyfodi'r gair 'milfiliwn' fasa'n dda!
----- Original Message -----
From: "Dwynwen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 28, 2005 12:20 PM
Subject: Re: 2million/2 billion
Diolch i bawb.
Felly - os llithriad yw'r "b" yng Ngeiriadur yr Academi. yna dau filiwn
sy'n gywir
OND o gofio bydd rhai yn cymeryd mai camgymeriad yn y rhifolyn yw hyn
byddai'n ddiogelach i gymeryd patrwn y Cynulliad a pheidio treiglo - felly
DAU BILIWN.
Yn anffodus nid son yr ydwi am bres sy'n perthyn i mi - tasa gen i'r math
yna o swm faswn i'm yn malio fasa fo'n ddwy/ddau neu unrhywbeth arall!!
Dwynwen
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 28, 2005 12:02 PM
Subject: Re: 2million/2 billion
Newydd fod yn siarad ag un o staff y Cynulliad - nid yn gyfieithydd ond yn
aelod o staff y cofnod ac mae'n dweud nad ydynt yn treiglo biliwn fel arfer,
ac mae enghreifftiau o hynny ar y rhyngrwyd.
"Ers ei greu yn 2000, mae'r WTI wedi cael cryn effaith ar economi Cymru trwy
gael hyd i werth mwy na £2 biliwn o gyfleoedd masnachu a helpu cwmnïau o
Gymru i droi mwy na £275 miliwn ohonynt yn archebion. Mae wedi helpu dros
220 o gwmnïau o Gymru i allforio."
http://www.cymru.gov.uk/subitradeindustry/content/icm-w.htm
Muiris
|