Dwn i ddim ond tueddaf i feddwl na fyddai neb yn dweud y fath beth ar
lafar ac mai "am" fyddai'r gair naturiol.
O ran brawddegau fel "The officer reported that..." dwi'n tueddu i
feddwl mai "Dywedodd y swyddog..." fyddai'n gywir yn Gymraeg. Os yw'r
swyddog yn "adrodd" fe'i gwelaf yn gwneud rhyw stumiau, a phwyso ymlaen,
gwneud llygada a gorliwio'r geirio ac ati. (Deud y gwir byddai hynny'n
eitha doniol mewn cyfarfod)
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
Løvgreen
Sent: 16 September 2005 11:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Adrodd ar, Adrodd am
Dwi'r un fath, yn meddwl am adrodd yn yr eisteddfod. Gwell gen i ddeud
"cyflwyno adroddiad"
Ond mae "adroddiad ar bwnc x" yn swnio'n fwy pendant rywsut nag
"adroddiad
am bwnc x"... dwi'm yn gwybod pam! Falle dy fod ti'n iawn Gorwel, ac mai
dylanwad y Saesneg ydio.
----- Original Message -----
From: "Gorwel Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 16, 2005 11:15 AM
Subject: Re: Adrodd ar, Adrodd am
Byddaf yn ceisio peidio â defnyddio 'adrodd' am ei fod yn peri imi
feddwl am gorau yn Steddfod yr Urdd.
Dwi'n tueddu i feddwl mai 'am' sydd orau a bod yr 'ar' ar gynnydd
oherwydd dylanwad y Saesneg,
Ydw i'n iawn?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag
Ualghairg
Sent: 16 September 2005 11:01
To: [log in to unmask]
Subject: Adrodd ar, Adrodd am
Mae Gwgl yn rhoi 16,200 o enghreifftiau o "adrodd ar" a "9,910" o
"adrodd am".
Oes gwahaniaeth - os oes, beth yw'r gwahaniaeth? A fyddai'n well osgoi
defnyddio 'adrodd' o gwbl a defnyddio awgrymiadau Berwyn yn ei eirfa -
"to report - rhoi gwybod am, cyflwyno adroddiad(au) ar; they r. improved
attendance - fe geir, meddant, well presenoldeb; to r. for work - eu
cyflwyno'u hunain i weithio; the circumstances as r.-ed - yr
amgylchiadau fel y'u disgrifiwyd (mewn/yn yr adroddiad)"
Trafoder (a diolch!).
Muiris
|