14th annual Christmas exhibition. Oes na ffordd dwt o ddeud hyn? Tasa hi'n
ddim ond yn arddangosfa, pedwaredd arddangosfa ar ddeg - iawn. Ond be am y
Nadolig a'r flynyddol? Fedra i ddim gadael 'ar ddeg' reit ar y diwadd, na
fedra. Ta fedra i? Fasa hi'n rhy ofnadwy deud pedwaredd ar ddeg arddangosfa
Nadolig flynyddol?? Mae hi'n bnawn Gwenar ac mae un o'r bildars newydd
syrthio oddi ar ysgol a mae mrens i wedi ffrio. Diolch ymlaen llaw.
Annes
|