Ai 'is-gwmni' o ryw fath yw'r cwmni newydd? Creu is-gwmni, felly?
Eirian Youngman
Uwch-Gyfieithydd/Senior Translator
Uned Gyfieithu/Translation Unit
> ----------
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary[SMTP:[log in to unmask]] on behalf of Catrin
> Alun[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 29 September 2005 11:38
> To: [log in to unmask]
> Subject: Spinning out
>
> Oes gan rywun syniad beth yw ystyr 'spinning out' mewn perthynas a chwmni?
>
> Mae'r cyd-destun yn awgrymu bod un corff wedi sefydlu'r cwmni, ac wedi ei
> drosglwyddo i ddwylo rhywun arall - ond dydy hynny ddim yn amlwg.
>
> Yn ddiweddarach yn y darn, mae'n son am y corff gwreiddiol yn cadw rhan
> berchnogaeth o'r cwmni, a dyna sydd wedi awgrymu'r uchod i mi.
>
> Sori os ydy hwn yn amlwg i bawb ond fi!! Byddwn yn gwerthfawrogi
> awgrymiadau - dyma'r frawddeg dan sylw, gan dynnu enwau'r corff/cwmni
> allan:
>
> During May 2005, xxxx was successful in spinning out xxxx, a company set
> up
> to ....
>
> Diolch
> Catrin
>
>
> Catrin Alun
> 3 Clos Glanlliw
> Pontlliw
> Abertawe/Swansea
> SA4 9DW
>
> 01792 898327/01792 898222
> ----- Original Message -----
> From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, September 29, 2005 8:50 AM
> Subject: Re: 2million/2 billion
>
>
> Nage. Dwyt ti ddim yn arholwr am nad wyt ti ddim yn aelod o CCC.
>
> Mae'r ohebiaeth hon yn dechrau mynd yn annhestunol. Cawn gerydd gan Delyth
> cyn hir!
>
> Berwyn
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, September 28, 2005 10:35 PM
> Subject: Re: 2million/2 billion
>
>
> Hm. Faswn i yn rhoi marciau ychwanegol i rywun fyddai'n rhoi "dwy seren"
> wrth gyfieithu "2 stars" ...
>
> Ac nid gwgu braidd faswn i, ond gwenu.
>
> Ond dyna fo, dyna pam nad ydw i'n arholwr, mae'n siwr...
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, September 28, 2005 4:30 PM
> Subject: Re: 2million/2 billion
>
>
> Fel arholwr, byddwn i'n gwgu braidd, ond yn ymatal rhag tynnu marc os nad
> oes rhywbeth arall gerllaw fydd yn gwneud i mi wgu'n fwy!
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, September 28, 2005 3:48 PM
> Subject: Re: 2million/2 billion
>
>
> O^l feri wel, Berwyn, ond gwahaniaeth bach iawn yw rhwng dweud rhywbeth yn
> eich pen a dweud rhywbeth yn uchel. Mae Bruce yn pwysleisio mai ar gyfer
> 2,
> 3, 4, ac i ryw raddau 5 a 6, y dylid ystyried ysgrifennu'r rhif yn llawn.
> Oni wneir fel hyn, bydd pobl mewn perygl o ddarllen "dau goeden", "pump
> dyn"
> ac ati. Hefyd, o brofiad personol, mae'n osgoi problemau wrth ddefnyddio
> cof cyfieithu. Os nad oes newid arall mewn brawddeg, mae Trados yn
> cyfnewid
> rhifau heb ofyn ichi ac yn dangos "exact match". Os oedd gennych "2 dy^"
> yn
> y rhestr flaenorol, fe gewch "3 ty^", ac os oedd gennych "2 bunt", fe
> gewch
> "3 bunt".
>
> Gyda llaw, a fyddi di'n tynnu marciau gen i os dilynaf yr egwyddor hon
> mewn
> arholiad?
>
> Mae "2 biliwn" yn hollol annerbyniol gan Bruce, ac nid yw'n derbyn y
> Cynulliad fel awdurdod yn hyn o beth (ac iawn, 'rwyf i [Ann] yn gwybod bod
> rhaid ufuddhau i'r cwsmer, ond mae modd dwyn perswad ar y cwsmer hefyd).
>
> Mater arall yw'r dyddiadau.
>
> Cofion gorau,
>
> Ann
>
> ----- Original Message -----
> From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, September 28, 2005 2:20 PM
> Subject: Re: 2million/2 billion
>
>
> > Er cymaint y byddai'n well gen i beidio ag anghytuno â Llywydd er
> Anrhydedd
> > Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, heb sôn am anghytuno ag Elwyn, byddwn i'n
> > barnu mai'r cwsmer sydd i benderfynu pa ffurf y mae'n dymuno'i rhoi ar
> > ffigurau yn ei destun.
> >
> > Os yw'n dweud '2 stars', fe roddaf '2 seren' yn fy nghyfieithiad. Os
> yw'n
> > dweud 'two stars', fe roddaf 'dwy seren'.
> >
> > Os yw'n dweud '23 April 1999' fe roddaf '23 Ebrill 1999', nid 'y trydydd
> ar
> > hugain o Ebrill mil naw naw naw' er y gall rhai darllenwyr ddweud
> > 'twenty-three/dau ddeg tri Ebrill nineteen ninety nine' yn eu meddyliau.
> >
> > I mi, yr unig eithriadau i'r rheol yw:
> >
> > 1. sillafu ffigurau pan fydd y sgript i gael ei darllen neu ei recordio
> a
> > bod angen tipyn o arweiniad ar y sawl sy'n ei llefaru, a
> >
> > 2. pan geir '2 hours' neu '2 days' neu ffurfiau tebyg yn y gwreiddiol.
> Os
> > digwydd hynnny, y ffurfiau cywir, yn fy marn i, yw 'dwyawr', 'deudydd'
> ac
> > ati.
> >
> > Berwyn
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, September 28, 2005 11:41 AM
> > Subject: Re: 2million/2 billion
> >
> >
> > Ie, llithriad, mae'n rhaid, fu dynodi biliwn yn fenywaidd yng NgyrA.
> >
> > I wahaniaethu rhwng "biliwn" a "miliwn" felly, byddai'n gymorth petaem
> yn
> > dilyn anogaeth John Elwyn Hughes a pheidio ag ysgrifennu mewn ffigyrau,
> h.y.
> > ysgrifennu "dau filiwn" neu "dwy filiwn" yn lle "2 filiwn". Fel y dywed
> ef,
> > wrth weld y ffigyrau 2, 3, 4 y tuedd yw dweud "dau", "tri", "pedwar" hyd
> yn
> > oed o flaen enw benywaidd.
> >
> > Er hynny, prin fydd y nifer ohonom a all gofio pa un o'r ddau rif sy'n
> > wrywaidd a pha un sy'n fenywaidd. Cymhlethir y mater gan y newid a fu
> yn
> > ystyr "billion". Yr ystyr gywir yw miliwn miliwn, a dyna a fu'n safonol
> yn
> > y Deyrnas Unedig. Er hynny, yn ddiweddar newidiwyd yr ystyr gan ddilyn
> > arfer America, i olygu mil o filynau. Ar gyfer yr ystyr newydd hon, i
> osgoi
> > unrhyw gamddealltwriaeth, dylid arfer y ffurf "milfiliwn" a restrir yng
> NgPC
> > fel enw benywaidd (yn betrus), yng Ngeiriadur Edward Anwyl (Spurrrell)
> ac
> > yng NgyrA. Yr ansoddair cyfatebol fydd "milfiliynfed".
> >
> > Dyna ddatrys yr anhawster mi gredaf.
> >
> > Bruce
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, September 28, 2005 8:58 AM
> > Subject: Re: 2million/2 billion
> >
> >
> > Ysgrifennodd Dwynwen:
> >
> > > Diolch i chi Muiris a Berwyn am y cyfeiriad i GyG - ond yn fy
> > > marn i mae'r broblem yn dal i godi ar ol *dau *- mae *dau filiwn*
> > > yn swnio fel defnydd anghywir o'r rhifolyn yn hytrach na
> > > threiglad o *Biliwn .*
> > >
> > > Dwi'n cytuno braidd efo Berwyn - derbyn fod miliwn a biliwn
> > > yn fenywaidd a pheidio treiglo biliwn ar ol dwy oedd fy
> > > ngreddf gyntaf innau i osgoi unrhyw amwysedd neu gamddeall. .
> > >
> > > Mi faswn i'n reit hapus i ddefnyddio *dau biliwn* neu *dwy
> > > biliwn* - o leia mae'r ddau yna yn gneud yn glir mai *biliwn*
> > > olygir. Ond pa un ddylwn i fynd amdano???
> > > Dwynwen
> > >
> > >
> > > --- Original Message -----
> > > *From:* Berwyn Jones <mailto:[log in to unmask]>
> > > *To:* [log in to unmask]
> > > <mailto:[log in to unmask]>
> > > *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 6:15 PM
> > > *Subject:* Re: 2million/2 billion
> > >
> > > Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas, td. 138, adran 4.8(a):
> > >
> > > "Dau enw arall y gall eu ffurfiau orymylu yn sgîl treiglo yw
> > > /biliwn/ a /miliwn/. Ni fydd unrhyw amwysedd pan oleddfir y ddau
> > > hyn gan rifolion,
> > > e.e. biliwn: dau filiwn, tri biliwn, pum biliwn
> > > miliwn: dwy filiwn, tair miliwn, pum miliwn."
> > >
> > > Awgryma ymhellach fod modd osgoi amwysedd rhwng biliwn a miliwn os
> > > cânt eu treiglo, a hynny drwy ddweud 'un biliwn' yn lle 'biliwn'
> > > ac 'un filiwn' yn lle 'miliwn'.
> > >
> > > Yn anffodus, dyw hynny ddim yn gweithio os defnyddir y rhif: dyw
> > > '2 filiwn' ddim yn ddiamwys. Byddai'n rhaid dweud '2 biliwn'.
> > >
> > > Mae Geiriadur y Brifysgol, y Geiriadur Cymraeg Cyfoes a'r
> > > Termiadur yn cytuno â Peter mai gair gwrywaidd yw 'biliwn', ond yn
> > > groes i hynny dywed Geiriadur yr Academi mai gair benywaidd ydyw
> > > (os felly, byddwn i'n dweud 'dwy biliwn').
> > >
> > > Rwy'n teimlo 'mod i wedi gwneud y tywyllwch yn dywyllach byth! Pa
> > > Gymro neu Gymraes welai'r gwahaniaeth enfawr rhwng '*dwy* filiwn'
> > > a '*dau* filiwn'? Os yw 'miliwn' yn fenywaidd, pam y dylai
> > > 'biliwn' fod yn wrywaidd? Oni fyddai'n well i'r ddau enw fod yn
> > > fenywaidd a pheidio â threiglo 'biliwn' ar ôl 'dwy'?
> > >
> > Wow! Peth peryg iawn yw rhagnodi cenedl enw, gan fod treiglo yn rhywbeth
> > sy'n digwydd yn reddfol i siaradwyr Cymraeg rhugl. Lle ceir tystiolaeth
> > fod gair yn cymryd cenedl arbennig yn yr iaith, dylid glynu at hynny. Yn
> > achos 'biliwn' mae enghraifft Geiriadur Prifysgol Cymru yn dyddio o 1725
> > ac yn nodi 'biliwn neu ddau' yn ddiamwys. Mae'n bosib mai llithriad yw
> > nodi 'biliwn' fel benywaidd yng Ngeiriadur yr Academi, ac nid yw'n
> > ddigon o dystiolaeth ar ei ben ei hun i newid cenedl gair. Y mwyaf y
> > gellid gwneud os daw tystiolaeth o rywle arall y gall 'biliwn' fod yn
> > fenywaidd hefyd yw ei nodi fel enw gwrywaidd/benywaidd. Yn y cyfamser,
> > mae'n well peidio 'biliwn' lle byddai'n achosi amwysedd.
> >
> > Delyth
> >
> > >
> > > Ond pwy ydw i i ddeddfu?
> > >
> > > Berwyn
> > >
> > > ----- Original Message -----
> > > *From:* Dwynwen <mailto:[log in to unmask]>
> > > *To:* [log in to unmask]
> > > <mailto:[log in to unmask]>
> > > *Sent:* Tuesday, September 27, 2005 5:31 PM
> > > *Subject:* 2million/2 billion
> > >
> > > Tybed fedrwch chi helpu.
> > > Isio gwahaniaethu rhwng 2 million a 2 billion yn Gymraeg
> > > Hyd y gwela i o gyfieithu a rhoi'r treiglad meddal yn ei le
> > > *dwy filiwn* geir am y ddau !!
> > > Ddylai rhywun beidio treiglo "Biliwn" i roi *dwy biliwn *er
> > > mwyn gwahaniaethu??
> > >
> > > Diolch
> > > Dwynwen
> > >
> > >
> >
> ------------------------------------------------------------------
> > ------
> > > No virus found in this incoming message.
> > > Checked by AVG Anti-Virus.
> > > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release
> > > Date: 23/09/2005
> > >
> >
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Anti-Virus.
> > Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date:
> 23/09/2005
> >
> >
> >
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date: 23/09/2005
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.6/111 - Release Date: 23/09/2005
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.344 / Virus Database: 267.11.7/112 - Release Date: 9/26/2005
>
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|