Ail yrru'r neges - defnyddio "To Bach" Draig Technology wnes i heb feddwl.
Ateb ychydig yn hwyr hwyrach. Ddim yn cofio'n union sut y byddwn yn
cyfieithu rhywbeth tebyg i Wasanaeth Trallwyso Gwaed Gogledd Cymru -
rhywbeth fel "tatw^s a thyllu'r corff heb reswm meddygol"
Dyma sydd ar wefan Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Cymru:
"Os ydych, o fewn y ddeuddeng mis diwethaf, wedi cael tyllau yn eich
clustiau, neu dyllau yn unrhyw rhan o'ch corff, tatws neu driniaeth
gosmetig sy'n cynnwys torri'ch croen."
Hefyd mae "tyllu'r corff" yn cael ei ddefnyddio yn
http://www.consumereducation.org.uk/features/piercingscym.htm
Fyddai "Tatw^s a Thyllu'r Corff" yn well fel cyfieithiad o'r
teitl "Tattoos and Body Piercing" a tybed fyddai "Cafodd roi tyllau yn ei
chlustiau ac mewn rhannau eraill o'i chorff" yn swnio'n llai ych a fi?
Ann
|